Sylwebaeth Ar Yr Adrannau

Rhan 2 – Y Dreth Gyngor

Adran 20 - Y weithdrefn ar gyfer llunio rhestrau prisio

101.Maeʼr adran hon yn gwneud darpariaeth ar gyfer llunio rhestrau prisio newydd bob pum mlynedd ar gyfer y dreth gyngor, gan ddechrau yn 2028 , drwy ddiwygio adran 22B o Ddeddf 1992.

102.Cyn y diwygiad, caiff Gweinidogion Cymru bennu, drwy orchymyn, y flwyddyn y mae rhestr brisio treth gyngor newydd i gael ei llunio. Nid oes gofyniad i lunio rhestr newydd ar gyfnodau rheolaidd.

103.Diwygir adran 22B(3) o Ddeddf 1992 fel na all Gweinidogion Cymru ond arfer eu pŵer i wneud gorchymyn i bennu blwyddyn heb fod yn hwyrach na 2027 . Mae adran 20(1)(b) oʼr Ddeddf yn mewnosod is-adrannau newydd (3A) i (3C) yn adran 22B. Maeʼr rhain yn nodiʼr trefniadau newydd ar gyfer llunio rhestrau prisioʼr dreth gyngor ar ôl 2029:

104.Mae adran 20(1)(d) oʼr Ddeddf yn mewnosod is-adran (7A) yn adran 22B o Ddeddf 1992. Mae hyn yn galluogi Gweinidogion Cymru i bennu, mewn gorchymyn, y dyddiad erbyn pryd y mae rhaid i swyddogion rhestru anfon copi oʼr rhestr brisio arfaethedig at eu hawdurdodau bilio. Os na fydd Gweinidogion Cymru yn gwneud gorchymyn oʼr fath, y dyddiad cau fydd 1 Medi cyn y dyddiad y maeʼr rhestr i gael ei llunio arno.

105.Mae adran 20(1)(e), (f) ac (g) yn newid y system o adneuo rhestrau prisio yng Nghymru, ar gyfer rhestrau yn y dyfodol, drwy ddatgymhwyso adran 22B(10) o Ddeddf 1992 a mewnosod is-adrannau newydd (8) a (10A). Ar ôl y diwygiad, rhaid i awdurdod bilio yng Nghymru:

106.Mae is-adran (10) o adran 22B o Ddeddf 1992 yn parhau i gael effaith ar ôl y diwygiad mewn perthynas ag unrhyw restr ar gyfer Cymru a adneuwyd cyn i adran 19 ddod i rym (yn sgil adrannau 34 a 37 o Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019). Mae hyn yn golygu bod cyfeiriadau at restr a adneuwyd o dan is-adran (10) (“a list deposited under subsection (10)”) syʼn ymddangos mewn lleoedd eraill yn Neddf 1992 (er enghraifft, yn adran 24(9)) yn parhau i gynnwys rhestrau ar gyfer Cymru a adneuwyd yn flaenorol o dan yr is-adran honno.