RHAN 1GWEINYDDU A CHOFRESTRU ETHOLIADOL

PENNOD 3PEILOTA A DIWYGIO ETHOLIADAU CYMREIG

Cynigion ar gyfer peilotau

9Cynigion ar gyfer peilotau a wneir gan brif gynghorau

(1)

Caiff prif gyngor gynnig i Weinidogion Cymru fod rheoliadau peilot yn cael eu gwneud mewn perthynas ag unrhyw fater etholiadol perthnasol i’r graddau y mae’n ymwneud ag etholiadau llywodraeth leol.

(2)

Cyn gwneud cynnig o dan is-adran (1), rhaid i’r prif gyngor ymgynghori â Gweinidogion Cymru.

(3)

Ar ôl ymgynghori yn unol ag is-adran (2) a chyn gwneud cynnig o dan is-adran (1), rhaid i’r prif gyngor—

(a)

cyflwyno’r cynnig i Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru ar gyfer y peilot y darperir ar ei gyfer mewn rheoliadau, a

(b)

rhoi sylw i adroddiad y Comisiwn ar y cynnig o dan adran 14.

(4)

Os yw prif gyngor yn gwneud cynnig o dan is-adran (1), rhaid iddo anfon copi o adroddiad Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru ar y cynigion o dan adran 14 at Weinidogion Cymru.