RHAN 1GWEINYDDU A CHOFRESTRU ETHOLIADOL

PENNOD 3PEILOTA A DIWYGIO ETHOLIADAU CYMREIG

Cynigion ar gyfer peilotau

8Cynigion ar gyfer peilotau a wneir gan Weinidogion Cymru

(1)

Cyn gwneud rheoliadau peilot nad ydynt wedi bod yn destun cynnig o dan adrannau 9 i 11, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â phob swyddog canlyniadau ar gyfer ardal y bydd y rheoliadau yn gymwys iddi ynghylch eu cynigion ar gyfer y peilot y mae’r rheoliadau i ddarparu ar ei gyfer.

(2)

Ar ôl ymgynghori yn unol ag is-adran (1) a chyn gwneud rheoliadau peilot sy’n ymwneud ag unrhyw fater etholiadol perthnasol, rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)

cyflwyno cynigion i Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru ar gyfer y peilot y darperir ar ei gyfer mewn rheoliadau, a

(b)

rhoi sylw i adroddiad y Comisiwn ar y cynigion o dan adran 14.

(3)

Nid yw’r adran hon yn gymwys i reoliadau peilot nad ydynt ond yn cynnwys darpariaeth o’r math a bennir yn adran 5(4) os ydynt wedi eu gwneud cyn diwedd y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r Ddeddf hon yn cael y Cydsyniad Brenhinol.