Yn y Ddeddf hon—
ystyr “Deddf 1983” (“1983 Act”) yw Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 (p. 2);
ystyr “Deddf 2000” (“2000 Act”) yw Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (p. 41);
ystyr “Deddf 2013” (“2013 Act”) yw Deddf Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru etc. 2013 (dccc 4);
ystyr “prif gyngor” (“principal council”) yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 70 mewn grym ar 10.9.2024, gweler a. 72(1)(d)