(1)Mae’r pŵer i wneud rheoliadau peilot yn arferadwy drwy offeryn statudol.
(2)Pan osodir offeryn statudol neu offeryn statudol drafft sy’n cynnwys rheoliadau peilot gerbron Senedd Cymru at ddibenion yr adran hon, rhaid i Weinidogion Cymru hefyd osod gerbron y Senedd gopi o’r adroddiad ar y rheoliadau a lunnir gan Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru o dan adran 14.
(3)Os yw offeryn statudol neu offeryn statudol drafft sy’n cynnwys rheoliadau peilot a osodir gerbron Senedd Cymru yn gwneud darpariaeth sy’n gymwys i ardal prif gyngor (neu unrhyw ran ohoni) nad yw’r cyngor wedi rhoi ei gydsyniad iddi, rhaid i Weinidogion Cymru hefyd osod datganiad gerbron y Senedd sy’n egluro pam y maent yn ystyried y dylai’r ddarpariaeth gael ei gwneud heb gydsyniad y cyngor.
(4)Ni chaniateir gwneud offeryn statudol y mae’r is-adran hon yn gymwys iddo oni bai bod drafft o’r offeryn wedi ei osod gerbron Senedd Cymru ac wedi ei gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad.
(5)Mae is-adran (4) yn gymwys i offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau peilot sy’n gwneud darpariaeth—
(a)sy’n gymwys i ardal prif gyngor (neu unrhyw ran ohoni) ac nad yw’r cyngor wedi rhoi ei gydsyniad iddi,
(b)ar gyfer peilot etholiad Cymreig sy’n dod o fewn adran 5(4), neu
(c)sy’n creu trosedd, neu’n ehangu cwmpas trosedd.
(6)Mae offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau peilot nad yw is-adran (5) yn gymwys iddo yn ddarostyngedig i’w ddiddymu yn unol â phenderfyniad gan Senedd Cymru.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 7 mewn grym ar 10.9.2024, gweler a. 72(1)(a)