RHAN 3DARPARIAETH GYFFREDINOL

69Rheoliadau: cyfyngiadau

(1)

Ni chaiff rheoliadau o dan y Ddeddf hon—

(a)

cynnwys darpariaeth a fyddai’n ei gwneud yn ofynnol cael cydsyniad y Gweinidog priodol o dan baragraff 8(1)(a) neu (c), 10 neu 11 o Atodlen 7B i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) pe bai’r ddarpariaeth yn cael ei chynnwys mewn Deddf gan Senedd Cymru;

(b)

cynnwys darpariaeth a fyddai’n ei gwneud yn ofynnol ymgynghori â’r Gweinidog priodol o dan baragraff 11(2) o Atodlen 7B i’r Ddeddf honno pe bai’r ddarpariaeth yn cael ei chynnwys mewn Deddf gan Senedd Cymru.

(2)

Yn yr adran hon mae i “Gweinidog priodol” yr ystyr a roddir i “appropriate Minister” gan baragraff 8(5) o Atodlen 7B i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.