RHAN 2CYRFF ETHOLEDIG A’U HAELODAU

PENNOD 4COMISIWN DEMOCRATIAETH A FFINIAU CYMRU

68Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru: pŵer i godi tâl

(1)

Mae Deddf 2013 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)

Ar ôl adran 11 (comisiynwyr cynorthwyol) a’r croesbennawd sy’n dilyn yr adran honno, mewnosoder—

“11APŵer i godi tâl

(1)

Caiff y Comisiwn godi tâl ar berson am ddarparu nwyddau neu wasanaethau fel a grybwyllir yn is-adran (2) i adennill cost y ddarpariaeth os yw’r person wedi cytuno i’r nwyddau neu’r gwasanaethau gael eu darparu.

(2)

Y nwyddau neu’r gwasanaethau yw—

(a)

nwyddau y mae’r Comisiwn yn eu darparu neu’n eu sicrhau, neu hyfforddiant y mae’r Comisiwn yn ei ddarparu neu’n ei sicrhau, wrth arfer ei swyddogaethau o dan adran 20A (swyddogaethau gweinyddu etholiadol);

(b)

hyfforddiant y mae’r Comisiwn yn ei ddarparu neu’n ei sicrhau ar gyfer prif gyngor mewn cysylltiad â swyddogaethau’r cyngor o dan Ran 3.”