RHAN 2CYRFF ETHOLEDIG A’U HAELODAU

PENNOD 4COMISIWN DEMOCRATIAETH A FFINIAU CYMRU

67Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru: pwyllgor llywodraethu ac archwilio

(1)

Mae Deddf 2013 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)

Yn y croesbennawd o flaen adran 15 (cyllido), ar ôl “ariannol” mewnosoder “a llywodraethu”.

(3)

Yn adran 17 (pwyllgor archwilio)—

(a)

yn lle pennawd yr adran, rhodder “Pwyllgor llywodraethu ac archwilio”;

(b)

yn is-adran (1)—

(i)

yn lle “(”pwyllgor archwilio”)” rhodder “(“pwyllgor llywodraethu ac archwilio”)”;

(ii)

ar ôl paragraff (b) mewnosoder—

“(ba)

adolygu, asesu a rheoli trefniadau archwilio mewnol ac allanol y Comisiwn,

(bb)

adolygu ac asesu sut y mae’r Comisiwn yn ymdrin â chwynion,

(bc)

adolygu—

(i)

datganiadau o gyfrifon ac adroddiadau a lunnir gan y Comisiwn o dan adrannau 19(1) ac 20,

(ii)

adroddiadau a lunnir gan Archwilydd Cyffredinol Cymru o dan adran 19(4),”;

(iii)

ym mharagraff (d), ar ôl “(b)” mewnosoder “, (ba), (bb), (bc)”;

(c)

yn is-adran (2), yn lle “archwilio” rhodder “llywodraethu ac archwilio”;

(d)

yn is-adran (3), yn lle “archwilio” rhodder “llywodraethu ac archwilio”;

(e)

ar ôl is-adran (2) mewnosoder—

“(2A)

Caiff y Comisiwn roi i’r pwyllgor llywodraethu ac archwilio y swyddogaethau y mae’r Comisiwn o’r farn eu bod yn addas i’w harfer gan y pwyllgor.”

(4)

Yn adran 18 (pwyllgor archwilio: aelodaeth)—

(a)

yn lle pennawd yr adran, rhodder “Pwyllgor llywodraethu ac archwilio: aelodaeth a chworwm”;

(b)

yn lle is-adrannau (1) a (2) o Ddeddf 2013 rhodder—

“(1)

Mae aelodau’r pwyllgor llywodraethu ac archwilio i fod fel a ganlyn—

(a)

o leiaf ddau aelod o’r Comisiwn;

(b)

o leiaf ddau aelod lleyg;

(c)

dim mwy na phum aelod.

(2)

Rhaid penodi aelod lleyg o’r pwyllgor llywodraethu ac archwilio—

(a)

i gadeirio’r pwyllgor (y “cadeirydd”);

(b)

yn ddirprwy i’r cadeirydd.

(2A)

Ni chaiff person fod yn aelod o’r pwyllgor llywodraethu ac archwilio os yw’r person yn aelod o’r Comisiwn a’i fod naill ai’n aelod cadeirio’r Comisiwn neu’n gweithredu fel dirprwy i aelod cadeirio’r Comisiwn.

(2B)

Tri aelod yw’r cworwm ar gyfer cyfarfodydd o’r pwyllgor llywodraethu ac archwilio, a rhaid i’r cworwm gynnwys o leiaf un aelod lleyg.”