RHAN 2CYRFF ETHOLEDIG A’U HAELODAU
PENNOD 4COMISIWN DEMOCRATIAETH A FFINIAU CYMRU
66Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru: personau na chaniateir iddynt fod yn aelodau etc.
(1)
Mae Deddf 2013 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2)
Yn adran 4(3) (personau na chaniateir iddynt fod yn gomisiynwyr)—
(a)
ym mharagraff (c), ar ôl “lleol” mewnosoder “neu’n aelod o staff awdurdod lleol”;
(b)
hepgorer paragraff (d);
(c)
ym mharagraff (e), ar ôl “awdurdod Parc Cenedlaethol” mewnosoder “, neu’n aelod o staff awdurdod Parc Cenedlaethol,”;
(d)
“(ea)
aelod o gyd-bwyllgor corfforedig, neu’n aelod o staff cyd-bwyllgor corfforedig, a sefydlir gan reoliadau a wneir o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (dsc 1);
(eb)
aelod o awdurdod tân ac achub, neu’n aelod o staff awdurdod tân ac achub, a gyfansoddir gan gynllun o dan adran 2 o Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 (p. 21), neu gynllun y mae adran 4 o’r Ddeddf honno yn gymwys iddo;”.
(3)
Yn adran 8(4) (personau na chaniateir iddynt fod yn brif weithredwr)—
(a)
ym mharagraff (c), ar ôl “lleol” mewnosoder “neu’n aelod o staff awdurdod lleol”;
(b)
hepgorer paragraff (d);
(c)
ym mharagraff (e), ar ôl “awdurdod Parc Cenedlaethol” mewnosoder “, neu’n aelod o staff awdurdod Parc Cenedlaethol,”;
(d)
“(ea)
yn aelod o gyd-bwyllgor corfforedig, neu’n aelod o staff cyd-bwyllgor corfforedig, a sefydlir gan reoliadau a wneir o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (dsc 1);
(eb)
yn aelod o awdurdod tân ac achub, neu’n aelod o staff awdurdod tân ac achub, a gyfansoddir gan gynllun o dan adran 2 o Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 (p. 21), neu gynllun y mae adran 4 o’r Ddeddf honno yn gymwys iddo;”.
(4)
Yn adran 11(2) (personau na chaniateir iddynt fod yn gomisiynwyr cynorthwyol)—