RHAN 2CYRFF ETHOLEDIG A’U HAELODAU

PENNOD 3ANGHYMHWYSO, DYLANWAD AMHRIODOL A CHYFYNGIADAU GWLEIDYDDOL AR SWYDDFEYDD

Anghymhwyso

61Anghymhwyso rhag bod yn Aelod o’r Senedd ac yn gynghorydd cymuned

(1)

Mae Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)

Yn adran 16 (anghymhwyso rhag bod yn Aelod o’r Senedd) yn is-adran (1)—

(a)

ym mharagraff (za), hepgorer “and 17B”;

(b)

yn lle paragraff (zc), rhodder—

“(zc)

is a member of the council of a county, a county borough or a community in Wales (but see section 17D),”.

(3)

Hepgorer adran 17B.

(4)

Yn adran 17D (eithriad rhag anghymhwyso yn rhinwedd bod yn gynghorydd)—

(a)

yn is-adran (1), ar ôl “borough” mewnosoder “or community council”;

(b)

yn is-adran (2), ar ôl “borough” mewnosoder “or community council”.

(5)

Hepgorer adran 17E.

(6)

Hepgorer adran 17F.

(7)

Mae’r diwygiadau a wneir gan yr adran hon yn cael effaith at ddibenion etholiad i fod yn Aelod o’r Senedd pan gynhelir pôl ar neu ar ôl 6 Ebrill 2026.