RHAN 1GWEINYDDU A CHOFRESTRU ETHOLIADOL
PENNOD 3PEILOTA A DIWYGIO ETHOLIADAU CYMREIG
Peilotau etholiadau Cymreig
6Rheoliadau peilot: gofynion
(1)
Rhaid i reoliadau peilot bennu—
(a)
amcan y peilot y maent yn gwneud darpariaeth ar ei gyfer;
(b)
y diwrnod cyn yr hwn y mae rhaid i’r Comisiwn Etholiadol anfon ei adroddiad o dan adran 17.
(2)
Ni chaiff rheoliadau peilot wneud darpariaeth sy’n gymwys i ardal prif gyngor (neu unrhyw rhan ohoni) oni bai—
(a)
bod y prif gyngor yn cydsynio iddi, neu
(b)
os nad yw’r cyngor yn cydsynio iddi, fod Gweinidogion Cymru wedi rhoi sylw i unrhyw argymhellion a wnaed gan Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru ynghylch a ddylai’r rheoliadau gael eu gwneud heb gydsyniad y prif gyngor.
(3)
Nid yw is-adran (2) yn gymwys i reoliadau peilot nad ydynt ond yn cynnwys darpariaeth o’r math a bennir yn adran 5(4) os ydynt wedi eu gwneud cyn diwedd y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r Ddeddf hon yn cael y Cydsyniad Brenhinol.
(4)
Ni chaiff rheoliadau peilot addasu adran 9D o Ddeddf 1983 (canfasiad blynyddol) nac unrhyw ddarpariaeth arall sy’n ymwneud â chanfasiad o dan yr adran honno oni bai bod y rheoliadau yn rhoi cynnig ar waith (gydag addasiadau neu hebddynt) gan swyddog cofrestru o dan adran 11.
(5)
Cyn gwneud unrhyw reoliadau peilot o dan adran 5 sy’n ymwneud â chofrestru etholiadol heb gais, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag unrhyw randdeiliaid y maent yn ystyried eu bod yn briodol, ond yn benodol, â’r rheini y maent yn barnu eu bod yn cynrychioli grwpiau hyglwyf.