RHAN 2CYRFF ETHOLEDIG A’U HAELODAU
PENNOD 2CYDNABYDDIAETH ARIANNOL AELODAU ETHOLEDIG
Swyddogaethau Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru
57Swyddogaethau Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru sy’n ymwneud â chydnabyddiaeth ariannol
(1)
Mae Deddf 2013 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2)
“RHAN 5ASWYDDOGAETHAU SY’N YMWNEUD Â THALIADAU A PHENSIYNAU
Tâl ar gyfer aelodau awdurdod
69ASwyddogaeth sy’n ymwneud â thaliadau i aelodau
(1)
Ar gyfer y flwyddyn ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2025 ac ar gyfer pob blwyddyn ariannol ddilynol, rhaid i’r Comisiwn benderfynu ar y materion perthnasol—
(a)
y mae’n ofynnol i awdurdod perthnasol wneud taliadau i aelodau o’r awdurdod amdanynt;
(b)
yr awdurdodir awdurdod perthnasol i wneud taliadau i aelodau o’r awdurdod amdanynt.
(2)
Yn y Rhan hon materion perthnasol yw—
(a)
materion sy’n ymwneud â busnes swyddogol aelodau awdurdodau perthnasol;
(b)
cyfnodau o absenoldeb teuluol o dan Ran 2 o Fesur 2011.
(3)
Wrth wneud penderfyniad o dan is-adran (1) rhaid i’r Comisiwn osod un o’r canlynol ar gyfer pob mater perthnasol—
(a)
y swm y mae rhaid i awdurdod perthnasol ei dalu i aelod o’r awdurdod;
(b)
yr uchafswm y caiff awdurdod perthnasol ei dalu i aelod o’r awdurdod.
(4)
Caiff y Comisiwn benderfynu na chaniateir talu taliadau mewn cysylltiad â mater neu faterion perthnasol i fwy na chyfran benodedig neu nifer penodedig o aelodau awdurdod perthnasol.
(5)
Ni chaiff y gyfran a bennir gan y Comisiwn o dan is-adran (4) fod yn fwy na 50% oni bai bod Gweinidogion Cymru yn rhoi eu cydsyniad.
(6)
Ni chaiff y nifer a bennir gan y Comisiwn o dan is-adran (4), a fynegir fel cyfran o gyfanswm aelodau awdurdod perthnasol, fod yn fwy na 50% oni bai bod Gweinidogion Cymru yn rhoi eu cydsyniad.
(7)
Caiff y Comisiwn osod—
(a)
canran uchaf neu gyfradd arall yr addasiad y caniateir i awdurdod perthnasol ei gwneud, ar gyfer blwyddyn ariannol, i’r symiau a oedd ag effaith mewn cysylltiad â materion perthnasol ar gyfer y flwyddyn ariannol cyn y flwyddyn honno;
(b)
mynegrif y caniateir i awdurdod perthnasol ei ddefnyddio i addasu, ar gyfer blwyddyn ariannol, y symiau a oedd ag effaith mewn cysylltiad â’r materion perthnasol hynny ar gyfer y flwyddyn flaenorol y bydd y Comisiwn yn penderfynu arnynt.
(8)
Caniateir arfer y pwerau o dan is-adran (7) er mwyn—
(a)
gosod cyfradd a mynegrif mewn perthynas â’r un mater;
(b)
gosod cyfraddau neu fynegrifau gwahanol mewn perthynas â materion gwahanol.
(9)
Wrth osod swm o dan is-adran (3), gwneud penderfyniad o dan is-adran (4) neu osod cyfradd neu fynegrif o dan is-adran (7), rhaid i’r Comisiwn ystyried beth yn ei farn ef fydd effaith ariannol debygol gwneud hynny ar awdurdodau perthnasol.
(10)
Caiff y Comisiwn wneud penderfyniadau gwahanol o dan is-adran (1), gosod symiau gwahanol o dan is-adran (3), gwneud penderfyniadau gwahanol o dan is-adran (4), neu osod cyfraddau neu fynegrifau gwahanol o dan is-adran (7), mewn perthynas ag awdurdodau perthnasol o ddisgrifiadau gwahanol neu ag awdurdodau perthnasol gwahanol o’r un disgrifiad.
(11)
At ddibenion is-adran (2) mae mater yn ymwneud â busnes swyddogol aelod o awdurdod perthnasol os yw’n fater y mae aelod yn ymgymryd ag ef—
(a)
fel aelod o awdurdod perthnasol, neu
(b)
fel aelod o gorff y penodir yr aelod iddo gan yr awdurdod perthnasol neu gan grŵp o gyrff sy’n cynnwys yr awdurdod perthnasol, neu yn sgil cael ei enwebu gan yr awdurdod perthnasol neu gan grŵp o gyrff sy’n cynnwys yr awdurdod perthnasol.
(12)
Yn yr adran hon ac yn adran 69E ystyr “blwyddyn ariannol” yw cyfnod o 12 mis sy’n dod i ben ar 31 Mawrth.
69BSwyddogaethau sy’n ymwneud â phensiynau aelodau
(1)
Mae’r adran hon yn gymwys mewn perthynas ag aelodau o awdurdodau perthnasol—
(a)
nad ydynt yn aelodau cyfetholedig, a
(b)
sydd am y tro yn gymwys i fod yn aelodau o gynllun pensiwn yn unol â rheoliadau o dan adran 7 o Ddeddf Blwydd-daliadau 1972 (p. 11) (cynlluniau pensiwn llywodraeth leol).
(2)
Rhaid i’r Comisiwn benderfynu ar y disgrifiadau o aelodau y mae’n ofynnol i awdurdod perthnasol dalu pensiwn (“pensiwn perthnasol”) mewn cysylltiad â hwy.
(3)
Rhaid i’r Comisiwn benderfynu ar y materion perthnasol y mae’n ofynnol i awdurdod perthnasol dalu pensiwn perthnasol mewn cysylltiad â hwy.
(4)
Caiff y Comisiwn wneud penderfyniadau gwahanol mewn perthynas ag awdurdodau perthnasol o ddisgrifiadau gwahanol neu ag awdurdodau perthnasol gwahanol o’r un disgrifiad.
69CAwdurdodau perthnasol, aelodau etc.
(1)
Mae’r adran hon yn gymwys at ddibenion y Rhan hon.
(2)
Mae awdurdod yn awdurdod perthnasol os yw’n—
(a)
awdurdod lleol;
(b)
awdurdod Parc Cenedlaethol ar gyfer Parc Cenedlaethol yng Nghymru;
(c)
awdurdod tân ac achub Cymreig, sef awdurdod yng Nghymru a gyfansoddwyd gan gynllun o dan adran 2 o Ddeddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 (p. 21) neu gynllun y mae adran 4 o’r Ddeddf honno yn gymwys iddo;
(d)
cyd-bwyllgor corfforedig;
(e)
corff a bennir yn awdurdod perthnasol mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.
(3)
Mae cyfeiriad at ddisgrifiad o awdurdod perthnasol i gael ei ddarllen gydag is-adran (2).
(4)
Mae “aelod”, mewn perthynas ag awdurdod perthnasol, yn cynnwys—
(a)
maer etholedig i’r awdurdod (o fewn ystyr 39(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000),
(b)
aelod gweithredol etholedig o’r awdurdod (o fewn ystyr adran 39(4) o’r Ddeddf honno),
(c)
aelod cyfetholedig o’r awdurdod, a
(d)
person sy’n aelod o is-bwyllgor i gyd-bwyllgor corfforedig ac a chanddo hawlogaeth i bleidleisio ar unrhyw gwestiwn sydd i’w benderfynu gan yr is-bwyllgor hwnnw.
(5)
Ystyr “aelod cyfetholedig”, mewn perthynas ag awdurdod perthnasol nad yw’n gyd-bwyllgor corfforedig, yw person nad yw’n aelod o’r awdurdod (ac eithrio yn rhinwedd is-adran (4)) ond—
(a)
sy’n aelod o bwyllgor neu is-bwyllgor i’r awdurdod neu sy’n aelod o gyd-bwyllgor neu gyd-is-bwyllgor i’r awdurdod ac sy’n cynrychioli’r awdurdod ar y cyd-bwyllgor neu’r cyd-is-bwyllgor hwnnw, a
(b)
y mae ganddo hawlogaeth i bleidleisio ar gwestiynau sydd i’w penderfynu yng nghyfarfodydd y pwyllgor hwnnw neu’r is-bwyllgor hwnnw.
(6)
Ni chaniateir pennu corff yn awdurdod perthnasol mewn rheoliadau o dan is-adran (2)(e) ond—
(a)
os yw Gweinidogion Cymru yn arfer swyddogaethau mewn cysylltiad ag ef,
(b)
os yw’n arfer swyddogaeth a roddir gan Fesur neu Ddeddf gan Senedd Cymru, neu swyddogaeth a allai gael ei rhoi gan Ddeddf gan Senedd Cymru (gan gynnwys swyddogaeth na allai gael ei rhoi ond gyda chydsyniad un o Weinidogion y Goron), ac
(c)
os yw ei aelodaeth yn cynnwys o leiaf un aelod o awdurdod a ddisgrifir yn is-adran (2)(a) i (d).
(7)
Nid yw adrannau 69A(4), 69B, 69E(4)(d) a 69O yn gymwys mewn perthynas ag awdurdod perthnasol a ddisgrifir yn is-adran (2)(d) neu (e).
(8)
Yn yr adran hon ystyr “cyd-bwyllgor corfforedig” yw pwyllgor a sefydlir drwy reoliadau o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (dsc 1).
69DSwyddogaethau sy’n ymwneud â thaliadau ailsefydlu
(1)
Mae taliad ailsefydlu yn daliad i berson—
(a)
sy’n peidio â bod yn aelod o awdurdod lleol ar ddiwedd tymor ei swydd,
(b)
a oedd, pan oedd yn ei swydd, yn aelod o awdurdod lleol o ddisgrifiad a bennir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru,
(c)
sy’n sefyll i gael ei ailethol i fod yn aelod o’r un awdurdod yn etholiad cyffredin yr awdurdod lleol ar gyfer y tymor sy’n dilyn ei dymor yn y swydd, a
(d)
nad yw’n cael ei ddychwelyd yn aelod yn yr etholiad hwnnw.
(2)
Rhaid i’r Comisiwn benderfynu—
(a)
o dan ba amgylchiadau y mae’n ofynnol i awdurdod lleol wneud taliad ailsefydlu;
(b)
o dan ba amgylchiadau yr awdurdodir awdurdod lleol i wneud taliad ailsefydlu;
(c)
y materion y mae taliad ailsefydlu yn daladwy mewn cysylltiad â hwy.
(3)
Wrth wneud penderfyniad o dan is-adran (2) rhaid i’r Comisiwn osod—
(a)
yr amodau cymhwyso i gael taliad;
(b)
y swm y mae’n ofynnol i awdurdod lleol ei dalu;
(c)
yr uchafswm y caiff awdurdod lleol ei dalu i aelod;
(d)
mecanwaith y caniateir ei ddefnyddio i gynyddu neu i leihau swm y taliadau a osodir o dan baragraff (b) neu (c);
(e)
gofynion ynghylch sut y mae taliadau i’w gwneud (a pha mor aml y’u gwneir).
(4)
Rhaid i’r Comisiwn wneud trefniadau i adolygu unrhyw benderfyniad y mae’n ei wneud o dan is-adran (2) ac, os yw’n meddwl ei bod yn briodol, caiff ddiwygio ei benderfyniad.
(5)
Wrth wneud penderfyniad o dan yr adran hon rhaid i’r Comisiwn ystyried effaith ariannol debygol ei benderfyniad ar awdurdodau lleol.
(6)
Wrth wneud penderfyniad o dan is-adran (2) caiff y Comisiwn wneud darpariaeth wahanol mewn perthynas ag aelodau o awdurdodau lleol o ddisgrifiadau gwahanol neu ag aelodau gwahanol o’r un disgrifiad.
(7)
Rhaid i’r Comisiwn wneud penderfyniad o dan is-adran (2) cyn pob un o etholiadau cyffredin yr awdurdod lleol, gan ddechrau gyda’r etholiad sydd i’w gynnal ym mis Mai 2027 a rhaid iddo adolygu’r penderfyniad cyn pob etholiad cyffredin dilynol.
(8)
Nid yw is-adran (7) ond yn gymwys os yw Gweinidogion Cymru yn gwneud rheoliadau o dan is-adran (1)(b).
69EAdroddiadau blynyddol ar dâl mewn perthynas ag aelodau o awdurdodau perthnasol
(1)
Rhaid i’r Comisiwn lunio a chyhoeddi adroddiad (“adroddiad blynyddol ar dâl”) ynghylch arfer ei swyddogaethau o dan y Rhan hon mewn cysylltiad â phob blwyddyn ariannol.
(2)
Rhaid i adroddiad blynyddol ar dâl nodi’r gofynion a osodir ar awdurdodau perthnasol gan y Comisiwn o dan adrannau 69A, 69B a 69D.
(3)
Rhaid cyhoeddi adroddiad blynyddol ar dâl heb fod yn hwyrach nag—
(a)
28 Chwefror yn y flwyddyn ariannol cyn y flwyddyn ariannol y mae’r adroddiad yn ymwneud â hi, neu
(b)
unrhyw ddyddiad diweddarach y mae’r Comisiwn a Gweinidogion Cymru yn cytuno arno.
(4)
Rhaid i adroddiad blynyddol ar dâl nodi—
(a)
y materion perthnasol,
(b)
y symiau a osodir o dan adran 69A(3),
(c)
y gyfran neu’r nifer a benderfynir o dan adran 69A(4),
(d)
yr aelodau neu’r disgrifiadau o aelodau o awdurdodau perthnasol y bydd yn ofynnol i awdurdodau perthnasol dalu pensiwn perthnasol iddynt neu mewn cysylltiad â hwy,
(e)
y materion perthnasol y mae pensiwn perthnasol yn daladwy mewn cysylltiad â hwy,
(f)
unrhyw ganran, unrhyw gyfradd neu unrhyw fynegrif a osodir o dan adran 69A(7) a’r mater perthnasol y mae’n ymwneud ag ef, ac
(g)
unrhyw benderfyniad ynghylch taliadau ailsefydlu o dan adran 69D.
69FAdroddiadau atodol ar dâl
(1)
Ar ôl cyhoeddi adroddiad blynyddol ar dâl ond cyn cyhoeddi’r adroddiad nesaf, caiff y Comisiwn lunio a chyhoeddi un neu ragor o adroddiadau atodol ar dâl i’r adroddiad blynyddol ar dâl (“adroddiad atodol ar dâl”).
(2)
Caiff yr adroddiad atodol ar dâl—
(a)
amrywio’r ddarpariaeth a wnaed yn yr adroddiad blynyddol ar dâl o dan adran 69E(4);
(b)
gwneud unrhyw ddarpariaeth y gallai’r adroddiad blynyddol ar dâl fod wedi ei gwneud o dan adran 69E(4).
69GDarpariaeth bellach ynghylch adroddiadau blynyddol ar dâl ac adroddiadau atodol ar dâl
(1)
Cyn cyhoeddi adroddiad blynyddol ar dâl neu adroddiad atodol ar dâl o dan adran 69E neu 69F, rhaid i’r Comisiwn—
(a)
anfon drafft o’r adroddiad y mae’n cynnig ei wneud—
(i)
at Weinidogion Cymru,
(ii)
i’r awdurdodau perthnasol y mae’r Comisiwn wedi ei gwneud yn ofynnol iddynt wneud taliadau, neu wedi eu hawdurdodi i wneud taliadau, i’w haelodau mewn cysylltiad â materion perthnasol, a
(iii)
at unrhyw bersonau eraill y mae’r Comisiwn o’r farn eu bod yn briodol,
(b)
cyhoeddi’r adroddiad drafft cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl ei anfon.
(2)
Wrth lunio adroddiad blynyddol ar dâl neu adroddiad atodol ar dâl o dan adran 69E neu 69F, rhaid i’r Comisiwn ystyried—
(a)
yr adroddiad blynyddol diwethaf ar dâl ac unrhyw adroddiadau atodol ar dâl sy’n ymwneud â’r adroddiad blynyddol diwethaf ar dâl;
(b)
sylwadau sydd wedi dod i law ynghylch yr adroddiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (a) a’r adroddiadau drafft y cyfeirir atynt yn is-adran (1).
(3)
Mae’r darpariaethau mewn adroddiad blynyddol neu atodol ar dâl o dan adran 69E neu 69F yn cael effaith ar y dyddiad a bennir at y diben hwnnw yn yr adroddiad.
(4)
Ond pan fo adroddiad atodol ar dâl yn cynnwys darpariaeth a wneir o dan adran 69F(2) sy’n amrywio darpariaeth a wneir o dan adran 69E(4)(a), (b) neu (c), caiff yr adroddiad atodol ar dâl bennu bod y ddarpariaeth i gael ei thrin fel pe bai’n cael effaith hyd at 3 mis yn gynharach na dyddiad cyhoeddi’r adroddiad atodol ar dâl.
69HCyfarwyddiadau i ailystyried adroddiadau drafft
(1)
Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo’r Comisiwn i ailystyried darpariaeth mewn adroddiad drafft blynyddol neu adroddiad drafft atodol ar dâl.
(2)
Rhaid i gyfarwyddyd o dan yr adran hon bennu—
(a)
y ddarpariaeth,
(b)
y rheswm dros roi’r cyfarwyddyd, ac
(c)
y dyddiad erbyn pryd y mae Gweinidogion Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i’r Comisiwn ymateb.
(3)
O ran y Comisiwn—
(a)
rhaid iddo ymateb i’r cyfarwyddyd heb fod yn hwyrach na’r dyddiad a bennir yn y cyfarwyddyd;
(b)
rhaid iddo beidio â chyhoeddi’r adroddiad cyn ymateb i’r cyfarwyddyd.
(4)
Os yw’r Comisiwn yn penderfynu peidio ag amrywio’r adroddiad drafft mewn ymateb i’r cyfarwyddyd, rhaid iddo bennu yn ei ymateb y rheswm dros ei benderfyniad.
69IDyletswyddau’r Comisiwn o ran cyhoeddi a hysbysu mewn perthynas ag adroddiadau
(1)
Rhaid i’r Comisiwn beidio â chyhoeddi adroddiad blynyddol ar dâl o dan adran 69E cyn diwedd y cyfnod o 12 wythnos sy’n dechrau ar y diwrnod y mae’n anfon drafft o’r adroddiad o dan adran 69G(1)(a)(i).
(2)
Rhaid i’r Comisiwn beidio â chyhoeddi adroddiad atodol ar dâl—
(a)
cyn diwedd y cyfnod o 8 wythnos sy’n dechrau ar y diwrnod y mae’n anfon drafft o’r adroddiad yn unol ag adran 69G(1)(a)(i), neu
(b)
yn hwyrach na diwedd y cyfnod o 12 wythnos sy’n dechrau ar y diwrnod y mae’n anfon drafft o’r adroddiad yn unol ag adran 69G(1)(a)(i).
(3)
Mae is-adrannau (1) a (2) yn ddarostyngedig i adran 69H(3)(b) (ni chaniateir cyhoeddi’r adroddiad ond os yw’r Comisiwn wedi ymateb i’r cyfarwyddyd).
(4)
Rhaid i’r Comisiwn gyhoeddi pob adroddiad blynyddol ar dâl, pob adroddiad atodol ar dâl a phob adroddiad drafft a lunnir o dan y Rhan hon ar ei wefan, ac mewn unrhyw ffordd arall y mae’r Comisiwn o’r farn ei bod yn briodol.
(5)
Caniateir i gopïau o unrhyw beth a gyhoeddir o dan is-adran (4) gael eu cyflenwi yn rhad ac am ddim neu ar ôl talu unrhyw ffi, nad yw’n fwy na chost cyflenwi’r copi, a benderfynir gan y Comisiwn.
(6)
Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl cyhoeddi adroddiad blynyddol ar dâl neu adroddiad atodol ar dâl, rhaid i’r Comisiwn hysbysu’r personau y mae o’r farn ei fod yn debygol o effeithio arnynt ynghylch sut y gallant gael mynediad at yr adroddiad neu gael copi ohono.
69JGofynion gweinyddol ar gyfer awdurdodau perthnasol mewn adroddiadau
(1)
Caiff adroddiad blynyddol ar dâl gynnwys gofynion y Comisiwn er mwyn—
(a)
osgoi dyblygu—
(i)
taliadau mewn cysylltiad â materion perthnasol, a
(ii)
ceisiadau am daliad mewn cysylltiad â’r un materion perthnasol o dan adran 69A(2)(a);
(b)
cadw cofnodion—
(i)
o geisiadau am daliadau mewn cysylltiad â materion perthnasol;
(ii)
o daliadau a wneir mewn cysylltiad â materion perthnasol;
(iii)
o daliadau a wneir mewn cysylltiad â phensiynau perthnasol;
(iv)
o daliadau ailsefydlu a wneir o dan adran 69D.
(2)
Rhaid i adroddiad blynyddol ar dâl nodi gofynion y Comisiwn mewn perthynas â sut y mae awdurdod perthnasol yn penderfynu pa awdurdod perthnasol y mae’n ofynnol iddo wneud taliad mewn achos pan fo aelod o awdurdod perthnasol yn gwneud rhywbeth—
(a)
y mae rhaid gwneud taliad amdano mewn cysylltiad â mater perthnasol, a
(b)
sy’n ymwneud ag awdurdod perthnasol arall (yn ogystal â’r awdurdod y mae’r aelod yn perthyn iddo).
69KGofynion cyhoeddi ar gyfer awdurdodau perthnasol mewn adroddiadau
(1)
Caiff adroddiad blynyddol ar dâl nodi gofynion y Comisiwn i awdurdodau perthnasol gyhoeddi gwybodaeth—
(a)
ynghylch taliadau a wneir mewn cysylltiad â materion perthnasol;
(b)
ynghylch taliadau a wneir mewn cysylltiad â phensiynau perthnasol;
(c)
ynghylch taliadau ailsefydlu a wneir o dan adran 69D;
(d)
ynghylch taliadau eraill a wneir i aelodau o awdurdodau perthnasol gan gyrff cyhoeddus eraill.
(2)
At ddibenion is-baragraff (1)(d), ystyr “corff cyhoeddus” yw—
(a)
bwrdd iechyd lleol;
(b)
panel heddlu a throsedd;
(c)
awdurdod perthnasol;
(d)
corff sydd wedi ei ddynodi’n gorff cyhoeddus mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.
(3)
Caiff y Comisiwn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau o ddisgrifiadau gwahanol neu i awdurdodau gwahanol o’r un disgrifiad wneud trefniadau cyhoeddi gwahanol.
69LMonitro cydymffurfedd â gofynion y Comisiwn
(1)
Rhaid i awdurdod perthnasol gydymffurfio ag unrhyw ofyniad a nodir mewn adroddiad blynyddol ar dâl neu adroddiad atodol ar dâl.
(2)
Caiff y Comisiwn fonitro sut y gwneir taliadau gan awdurdodau perthnasol mewn cysylltiad â materion perthnasol; a chaiff ei gwneud yn ofynnol i awdurdod perthnasol ddarparu gwybodaeth iddo—
(a)
ynghylch y materion sy’n faterion perthnasol mewn perthynas â’r awdurdod;
(b)
ynghylch ceisiadau i’r awdurdod am daliadau mewn cysylltiad â materion perthnasol;
(c)
ynghylch taliadau a wneir gan yr awdurdod mewn cysylltiad â materion perthnasol.
(3)
Caiff y Comisiwn fonitro sut y gwneir taliadau gan awdurdodau perthnasol mewn cysylltiad â phensiynau perthnasol a chaiff ei gwneud yn ofynnol i awdurdod perthnasol ddarparu gwybodaeth iddo—
(a)
ynghylch aelodau’r awdurdod y mae’n ofynnol i’r awdurdod dalu pensiynau perthnasol iddynt neu mewn cysylltiad â hwy;
(b)
ynghylch taliadau a wneir gan yr awdurdod mewn cysylltiad â phensiynau perthnasol.
(4)
Caiff y Comisiwn fonitro sut y gwneir taliadau ailsefydlu gan awdurdodau lleol a chaiff ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol ddarparu gwybodaeth iddo—
(a)
ynghylch cyn-aelodau’r awdurdod lleol y mae’n ofynnol i’r awdurdod dalu taliad ailsefydlu iddynt neu mewn cysylltiad â hwy;
(b)
ynghylch taliadau ailsefydlu a wneir gan yr awdurdod lleol.
69MCyfarwyddiadau i orfodi cydymffurfedd â gofynion y Comisiwn
(1)
Os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod awdurdod perthnasol wedi methu â chydymffurfio â gofyniad mewn adroddiad blynyddol neu adroddiad atodol ar dâl a wneir o dan y Rhan hon, cânt gyfarwyddo’r awdurdod i gydymffurfio â’r gofyniad.
(2)
Rhaid i gyfarwyddyd o dan yr adran hon bennu—
(a)
y gofyniad;
(b)
y rheswm dros roi’r cyfarwyddyd;
(c)
y camau y mae Gweinidogion Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod eu cymryd;
(d)
y dyddiad erbyn pryd y mae Gweinidogion Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod gymryd y camau.
69NAelodau sy’n dymuno ymwrthod â thaliadau
(1)
Mae’r adran hon yn gymwys os yw person, drwy hysbysiad ysgrifenedig a roddir i swyddog priodol yr awdurdod, yn dewis ymwrthod (naill ai’n gyfan gwbl neu i’r graddau a bennir yn yr hysbysiad) â’r hawlogaeth i gael taliadau mewn cysylltiad â’r materion perthnasol, neu daliad ailsefydlu, a bennir yn yr hysbysiad.
(2)
Nid yw’r gofyniad a osodir ar yr awdurdod gan adran 69A a 69D i wneud taliadau a bennir yn yr hysbysiad yn gymwys yn achos yr aelod hwnnw (neu nid yw’n gymwys i’r graddau a bennir yn yr hysbysiad).
(3)
Yn yr adran hon mae i “swyddog priodol” yr ystyr a roddir i “proper officer” yn adran 270(3) o Ddeddf 1972.
69OCadw taliadau yn ôl
(1)
Rhaid i awdurdod perthnasol beidio â gwneud taliadau mewn cysylltiad â materion perthnasol na phensiwn perthnasol i berson—
(a)
sydd wedi ei atal dros dro neu wedi ei atal dros dro yn rhannol rhag bod yn aelod o’r awdurdod yn rhinwedd Rhan 3 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (p. 22) (ymddygiad aelodau llywodraeth leol etc.);
(b)
sydd wedi ei rwystro rhag gweithredu yn swydd aelod o awdurdod lleol yng Nghymru o dan adran 80A(6) o Ddeddf 1972 (anghymhwyso).
(2)
Rhaid i awdurdod lleol beidio â gwneud taliad ailsefydlu i berson sydd wedi ei rwystro rhag gweithredu yn swydd aelod o awdurdod lleol yng Nghymru o dan adran 80A(6) o Ddeddf 1972.
(3)
Caiff Gweinidogion Cymru, mewn achosion y maent o’r farn eu bod yn briodol, gyfarwyddo awdurdod perthnasol i beidio ag—
(a)
gwneud taliadau (gan gynnwys mewn cysylltiad â phensiynau) mewn cysylltiad â’r materion perthnasol a bennir yn y cyfarwyddyd;
(b)
gwneud taliad ailsefydlu.
(4)
Cyn rhoi cyfarwyddyd o dan is-adran (3), rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r Comisiwn.
(5)
Caiff awdurdod perthnasol ei gwneud yn ofynnol i berson ad-dalu taliadau a wneir mewn cysylltiad â materion perthnasol neu bensiwn perthnasol i berson mewn cysylltiad â chyfnod pan nad oedd gan y person hawlogaeth i gael y taliad am unrhyw reswm, gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i) y rhesymau a ganlyn—
(a)
gwnaed y taliadau yn groes i is-adran (1);
(b)
gwnaed y taliadau yn groes i gyfarwyddyd o dan is-adran (3)(a);
(c)
yr oedd y person wedi peidio â bod yn aelod o’r awdurdod.
(6)
Caiff awdurdod lleol ei gwneud yn ofynnol i berson ad-dalu taliad ailsefydlu a wneir o dan adran 69D pan nad oedd gan y person hawlogaeth i gael y taliad am unrhyw reswm, gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i) y rhesymau a ganlyn—
(a)
gwnaed y taliad yn groes i is-adran (2);
(b)
gwnaed y taliad yn groes i gyfarwyddyd o dan is-adran (3)(b).
69PCanllawiau
(1)
Caiff y Comisiwn ddyroddi canllawiau i awdurdodau perthnasol ynghylch sut i gydymffurfio â gofynion a osodir o dan y Rhan hon.
(2)
Caiff Gweinidogion Cymru ddyroddi canllawiau i’r Comisiwn ynghylch swyddogaethau’r Comisiwn o dan y Rhan hon.
(3)
Mae pwerau’r Comisiwn a Gweinidogion Cymru i ddyroddi canllawiau o dan is-adrannau (1) a (2) yn cynnwys y pŵer i amrywio neu ddirymu canllawiau a roddir.
(4)
Rhaid i awdurdod perthnasol, neu’r Comisiwn yn ôl y digwydd, roi sylw i ganllawiau a roddir o dan yr adran hon.
69QCyfarwyddiadau o dan y Rhan hon
(1)
Mae cyfarwyddyd a roddir o dan adran 69M a 69O yn orfodadwy drwy orchymyn mandadol ar gais gan Weinidogion Cymru.
(2)
Nid yw’r pŵer i roi cyfarwyddiadau o dan y Rhan hon yn cyfyngu ar y pŵer cyfarwyddo cyffredinol o dan adran 14.
69RPŵer i addasu darpariaeth
Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud addasiadau i’r Rhan hon er mwyn ychwanegu, amrywio neu hepgor darpariaeth sy’n rhoi swyddogaeth i’r Comisiwn neu’n gosod swyddogaeth arno.”