RHAN 2CYRFF ETHOLEDIG A’U HAELODAU

PENNOD 1TREFNIADAU AR GYFER LLYWODRAETH LEOL

Cyffredinol

55Darpariaeth drosiannol

(1)

Mae adolygiad sy’n cael ei gynnal o dan Ran 3 o Ddeddf 2013 ar yr adeg y daw’r Bennod hon i rym i’w gwblhau fel pe na bai’r diwygiadau a wneir gan y Bennod hon wedi eu gwneud.

(2)

Mae darpariaethau Rhan 3 o Ddeddf 2013 (ac unrhyw orchmynion neu unrhyw reoliadau a wneir o dan y Rhan honno) yn parhau i gael effaith at ddiben adolygiadau o’r fath fel yr oedd darpariaethau’r Rhan honno (ac unrhyw orchmynion neu reoliadau a wnaed o dan y Rhan honno) yn cael effaith yn union cyn i’r Bennod hon ddod i rym.