(1)Mae Deddf 2013 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2)Ar ôl adran 49 (ymchwiliadau lleol), mewnosoder—
(1)Rhaid i brif gyngor gyhoeddi a chynnal ar ei wefan—
(a)copi o bob gorchymyn y mae’n ei wneud o dan y Rhan hon;
(b)copi o bob gorchymyn sy’n ymwneud â’i ardal a wneir gan y Comisiwn o dan y Rhan hon;
(c)copi o bob offeryn statudol sy’n cynnwys gorchymyn sy’n ymwneud â’i ardal a wneir gan Weinidogion Cymru o dan y Rhan hon, neu ddolen at bob offeryn statudol o’r fath.
(2)Rhaid i’r Comisiwn gyhoeddi a chynnal ar ei wefan—
(a)copi o bob gorchymyn a wneir gan brif gyngor o dan y Rhan hon;
(b)copi o bob gorchymyn y mae’r Comisiwn yn ei wneud o dan y Rhan hon;
(c)copi o bob offeryn statudol sy’n cynnwys gorchymyn a wneir gan Weinidogion Cymru o dan y Rhan hon, neu ddolen at bob offeryn statudol o’r fath;
(d)copi o bob offeryn statudol sy’n cynnwys gorchymyn a wneir gan yr Ysgrifennydd Gwladol o dan y Rhan hon, neu ddolen at bob offeryn statudol o’r fath.
(3)Rhaid i brif gyngor anfon copi o bob gorchymyn y mae’n ei wneud o dan y Rhan hon i’r Comisiwn.
(4)Rhaid i’r Comisiwn anfon i brif gyngor gopi o bob gorchymyn y mae’n ei wneud o dan y Rhan hon sy’n effeithio ar ardal y prif gyngor.
(5)Rhaid i Weinidogion Cymru—
(a)hysbysu prif gyngor am bob gorchymyn y maent yn ei wneud o dan y Rhan hon sy’n effeithio ar ardal y prif gyngor;
(b)hysbysu’r Comisiwn am bob gorchymyn y maent yn ei wneud o dan y Rhan hon.
(6)Mae’r dyletswyddau yn is-adrannau (1) a (2) yn gymwys i orchmynion a wneir ar ôl i’r adran hon ddod i rym.”
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 53 mewn grym ar 9.11.2024, gweler a. 72(2)(a)