(1)Mae Deddf 2013 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2)Ar ôl adran 36A (cynigion ar gyfer enwau wardiau etholiadol: adroddiadau adolygu) (a fewnosodir gan adran 44) mewnosoder—
(1)Cyn cynnal adolygiad o dan y Rhan hon, rhaid i’r Comisiwn neu, yn ôl y digwydd, brif gyngor gyhoeddi datganiad sy’n pennu’r diwrnod y mae’r adolygiad yn dechrau.
(2)Rhaid i’r Comisiwn, mewn perthynas ag adolygiad y mae’n ei gynnal o dan adran 23, 27 neu 29, wneud pob ymdrech i gyhoeddi ei adroddiad pellach ar yr adolygiad yn unol ag adran 36(5)(b) cyn diwedd cyfnod o 12 mis sy’n dechrau gyda’r diwrnod a bennir o dan is-adran (1).
(3)Rhaid i’r Comisiwn, mewn perthynas ag adolygiad y mae’n ei gynnal o dan adran 28, wneud pob ymdrech i gyhoeddi ei adroddiad pellach ar yr adolygiad yn unol ag adran 36(5)(b) cyn diwedd cyfnod o 18 mis sy’n dechrau gyda’r diwrnod a bennir o dan is-adran (1).
(4)Rhaid i’r Comisiwn, mewn perthynas ag adolygiad y mae’n ei gynnal o dan adran 26 neu 32, wneud pob ymdrech i gyhoeddi ei adroddiad pellach ar yr adolygiad yn unol ag adran 36(5)(b) cyn diwedd cyfnod o 24 mis sy’n dechrau gyda’r diwrnod a bennir o dan is-adran (1).
(5)Rhaid i brif gyngor, mewn perthynas ag adolygiad y mae’n ei gynnal o dan adran 25 neu 31, wneud pob ymdrech i gyhoeddi ei adroddiad pellach ar yr adolygiad yn unol ag adran 36(5)(b) cyn diwedd cyfnod o 24 mis sy’n dechrau gyda’r diwrnod a bennir o dan is-adran (1).
(6)Os bydd corff adolygu yn methu â chydymffurfio â dyletswydd a osodir gan yr adran hon mewn perthynas ag adolygiad, nid yw methiant y corff i gydymffurfio yn effeithio ar ddilysrwydd yr adolygiad at ddibenion y Ddeddf hon.”
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 48 mewn grym ar 9.11.2024, gweler a. 72(2)(a)