(1)Mae Deddf 2013 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2)Yn adran 29(8) (adolygu trefniadau etholiadol ar gyfer prif ardal), yn lle “9” rhodder “12”.
(3)Yn adran 37 (gweithredu gan Weinidogion Cymru), ar ôl is-adran (2) mewnosoder—
“(2A)Rhaid i Weinidogion Cymru beidio ag arfer eu swyddogaethau o dan is-adran (1) mewn unrhyw gyfnod o 6 mis cyn diwrnod etholiad cyffredin cyngor o dan adran 26 o Ddeddf 1972 (ethol cynghorwyr).”
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 47 mewn grym ar 9.11.2024, gweler a. 72(2)(a)