RHAN 2CYRFF ETHOLEDIG A’U HAELODAU

PENNOD 1TREFNIADAU AR GYFER LLYWODRAETH LEOL

Amseriad adolygiadau a gweithredu

47Argymhellion a phenderfyniadau sy’n deillio o adolygiad etholiadol: y cyfnod cyn etholiad lleol

(1)

Mae Deddf 2013 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)

Yn adran 29(8) (adolygu trefniadau etholiadol ar gyfer prif ardal), yn lle “9” rhodder “12”.

(3)

Yn adran 37 (gweithredu gan Weinidogion Cymru), ar ôl is-adran (2) mewnosoder—

“(2A)

Rhaid i Weinidogion Cymru beidio ag arfer eu swyddogaethau o dan is-adran (1) mewn unrhyw gyfnod o 6 mis cyn diwrnod etholiad cyffredin cyngor o dan adran 26 o Ddeddf 1972 (ethol cynghorwyr).”