RHAN 2CYRFF ETHOLEDIG A’U HAELODAU

PENNOD 1TREFNIADAU AR GYFER LLYWODRAETH LEOL

Ymgynghori ac ystyried sylwadau

46Ystyr “ymgyngoreion gorfodol” yn Rhan 3 o Ddeddf 2013

(1)

Mae Deddf 2013 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)

Yn adran 34(3) (y weithdrefn ragadolygu), ar ôl paragraff (c) mewnosoder—

“(ca)

yr awdurdod Parc Cenedlaethol ar gyfer Parc Cenedlaethol mewn ardal yr effeithir arni gan yr adolygiad,

(cb)

yr awdurdod Iechyd Porthladd a gyfansoddir o dan adran 2 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 (p. 22) ar gyfer rhanbarth iechyd porthladd mewn ardal yr effeithir arni gan yr adolygiad,

(cc)

Comisiynydd y Gymraeg,”.