RHAN 2CYRFF ETHOLEDIG A’U HAELODAU

PENNOD 1TREFNIADAU AR GYFER LLYWODRAETH LEOL

Ymgynghori ac ystyried sylwadau

45Ymgynghori ar adolygiadau

(1)

Mae Deddf 2013 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)

Yn adran 34 (y weithdrefn ragadolygu), yn is-adran (1)(a), ar ôl “sylw” mewnosoder “aelodau o’r cyhoedd yr effeithir arnynt gan yr adolygiad,”.

(3)

Yn adran 35 (ymgynghori ac ymchwilio)—

(a)

yn is-adran (1), ar ôl “(“y corff adolygu”)—” mewnosoder—

“(za)

ymgynghori ag aelodau o’r cyhoedd yn yr ardal yr effeithir arni gan yr adolygiad,”;

(b)

yn is-adran (3)—

(i)

ar ôl paragraff (a) mewnosoder—

“(aa)

rhoi cyhoeddusrwydd i’r ffaith y caniateir cyflwyno sylwadau sy’n ymwneud â’r adolygiad i’r corff adolygu yn ystod y cyfnod ymgynghori cyhoeddus,

(ab)

nodi yn y deunydd cyhoeddusrwydd pryd y mae’r cyfnod ymgynghori cyhoeddus yn dechrau ac yn dod i ben,”;

(ii)

ym mharagraff (b) yn lle “cyfnod ar gyfer sylwadau” rhodder “cyfnod ymgynghori cyhoeddus”;‍

(iii)

ym mharagraff (d) hepgorer “, ac”;

(iv)

hepgorer paragraff (e);

(v)

yn lle is-adran (4) rhodder—

“(4)

Yn is-adran (3), ystyr “cyfnod ymgynghori cyhoeddus yw cyfnod o 6 wythnos o leiaf a dim mwy na 12 wythnos a benderfynir gan y corff adolygu, na chaniateir iddo ddechrau cyn diwedd cyfnod o 7 niwrnod sy’n dechrau gyda’r diwrnod y cyhoeddir yr adroddiad.”

(4)

Yn adran 36 (adrodd ar yr adolygiad), yn is-adran (1), yn lle “cyfnod ar gyfer sylwadau” rhodder “cyfnod ymgynghori cyhoeddus”.