RHAN 2CYRFF ETHOLEDIG A’U HAELODAU
PENNOD 1TREFNIADAU AR GYFER LLYWODRAETH LEOL
Ymgynghori ac ystyried sylwadau
44Enwau wardiau etholiadol
(1)
Mae Deddf 2013 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2)
“36AEnwau wardiau etholiadol
(1)
Mae is-adran (2) yn gymwys i adroddiad adolygu o dan y Rhan hon i’r graddau y mae’n ymwneud ag–
(a)
ward etholiadol sydd ag enwau gwahanol (mewn unrhyw gyswllt) at ddibenion nodi’r ward wrth gyfathrebu drwy’r Gymraeg a’r Saesneg;
(b)
cynnig i ward etholiadol gael enwau gwahanol mewn unrhyw gyswllt at ddibenion nodi’r ward wrth gyfathrebu drwy’r Gymraeg a’r Saesneg.
(2)
Rhaid i’r Comisiwn neu’r prif gyngor (yn ôl y digwydd) bennu’r ddau enw neu’r ddau enw arfaethedig ar gyfer y ward etholiadol yn nwy fersiwn ieithyddol adroddiad o dan adran 35(2), 36(3) neu 36(4).
(3)
Cyn llunio adroddiad o dan adran 35(2), 36(3) neu 36(4), rhaid i’r Comisiwn neu brif gyngor (yn ôl y digwydd) roi sylw, yn benodol, i unrhyw sylwadau a gafwyd oddi wrth Gomisiynydd y Gymraeg ynghylch orgraff enw ward etholiadol, neu orgraff enw arfaethedig ward etholiadol, y mae’r adroddiad yn ymwneud â hi.
(4)
Yn yr adran hon ystyr “dwy fersiwn ieithyddol yw’r fersiwn Gymraeg a’r fersiwn Saesneg.”