(1)Mae Deddf 2013 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2)Yn adran 37 (gweithredu gan Weinidogion Cymru), yn lle is-adran (3) rhodder—
“(3A)Rhaid i Weinidogion Cymru beidio ag arfer eu swyddogaethau o dan is-adran (1) cyn diwedd y cyfnod o 6 wythnos sy’n dechrau ar y diwrnod y daw’r argymhellion i law Gweinidogion Cymru.
(3B)Wrth arfer eu swyddogaethau o dan is-adran (1), rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw i unrhyw sylwadau a gyflwynir gan unrhyw berson ar yr argymhellion ac a ddaw i law Gweinidogion Cymru yn ystod y cyfnod o 6 wythnos sy’n dechrau ar y diwrnod y daw’r argymhellion i law Gweinidogion Cymru.”
(3)Yn adran 38 (gweithredu newid i ffin cymuned), yn lle is-adran (2) rhodder—
“(2A)Rhaid i’r Comisiwn beidio ag arfer ei swyddogaethau o dan is-adran (1) cyn diwedd y cyfnod o 6 wythnos sy’n dechrau ar y diwrnod y daw’r argymhellion i law’r Comisiwn.
(2B)Wrth arfer ei swyddogaethau o dan is-adran (1), rhaid i’r Comisiwn roi sylw i unrhyw sylwadau a gyflwynir gan unrhyw berson ar yr argymhellion ac a ddaw i law’r Comisiwn yn ystod y cyfnod o 6 wythnos sy’n dechrau ar y diwrnod y daw’r argymhellion i law’r Comisiwn.”
(4)Yn adran 39 (gweithredu newid i drefniadau etholiadol cymuned), yn lle is-adran (4) rhodder—
“(4A)Rhaid i’r Cyngor beidio ag arfer ei swyddogaethau o dan is-adran (3) cyn diwedd y cyfnod o 6 wythnos sy’n dechrau ar y diwrnod y daw’r argymhellion i law’r Cyngor.
(4B)Wrth arfer ei swyddogaethau o dan is-adran (1) neu (3), rhaid i’r Cyngor roi sylw i unrhyw sylwadau a gyflwynir gan unrhyw berson ar yr argymhellion ac a ddaw i law’r Cyngor yn ystod y cyfnod o 6 wythnos sy’n dechrau ar y dyddiad y cyhoeddir yr adroddiad gan y Cyngor (ar gyfer swyddogaethau yn is-adran (1)) neu’r dyddiad y daw’r argymhellion i law’r Cyngor (ar gyfer swyddogaethau o dan is-adran (3)).”
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 43 mewn grym ar 9.11.2024, gweler a. 72(2)(a)