RHAN 2CYRFF ETHOLEDIG A’U HAELODAU

PENNOD 1TREFNIADAU AR GYFER LLYWODRAETH LEOL

Ymgynghori ac ystyried sylwadau

43Argymhellion a phenderfyniadau sy’n deillio o adolygiad etholiadol: dyletswydd i roi sylw i sylwadau

(1)

Mae Deddf 2013 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)

Yn adran 37 (gweithredu gan Weinidogion Cymru), yn lle is-adran (3) rhodder—

“(3A)

Rhaid i Weinidogion Cymru beidio ag arfer eu swyddogaethau o dan is-adran (1) cyn diwedd y cyfnod o 6 wythnos sy’n dechrau ar y diwrnod y daw’r argymhellion i law Gweinidogion Cymru.

(3B)

Wrth arfer eu swyddogaethau o dan is-adran (1), rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw i unrhyw sylwadau a gyflwynir gan unrhyw berson ar yr argymhellion ac a ddaw i law Gweinidogion Cymru yn ystod y cyfnod o 6 wythnos sy’n dechrau ar y diwrnod y daw’r argymhellion i law Gweinidogion Cymru.”

(3)

Yn adran 38 (gweithredu newid i ffin cymuned), yn lle is-adran (2) rhodder—

“(2A)

Rhaid i’r Comisiwn beidio ag arfer ei swyddogaethau o dan is-adran (1) cyn diwedd y cyfnod o 6 wythnos sy’n dechrau ar y diwrnod y daw’r argymhellion i law’r Comisiwn.

(2B)

Wrth arfer ei swyddogaethau o dan is-adran (1), rhaid i’r Comisiwn roi sylw i unrhyw sylwadau a gyflwynir gan unrhyw berson ar yr argymhellion ac a ddaw i law’r Comisiwn yn ystod y cyfnod o 6 wythnos sy’n dechrau ar y diwrnod y daw’r argymhellion i law’r Comisiwn.”

(4)

Yn adran 39 (gweithredu newid i drefniadau etholiadol cymuned), yn lle is-adran (4) rhodder—

“(4A)

Rhaid i’r Cyngor beidio ag arfer ei swyddogaethau o dan is-adran (3) cyn diwedd y cyfnod o 6 wythnos sy’n dechrau ar y diwrnod y daw’r argymhellion i law’r Cyngor.

(4B)

Wrth arfer ei swyddogaethau o dan is-adran (1) neu (3), rhaid i’r Cyngor roi sylw i unrhyw sylwadau a gyflwynir gan unrhyw berson ar yr argymhellion ac a ddaw i law’r Cyngor yn ystod y cyfnod o 6 wythnos sy’n dechrau ar y dyddiad y cyhoeddir yr adroddiad gan y Cyngor (ar gyfer swyddogaethau yn is-adran (1)) neu’r dyddiad y daw’r argymhellion i law’r Cyngor (ar gyfer swyddogaethau o dan is-adran (3)).”