RHAN 2CYRFF ETHOLEDIG A’U HAELODAU
PENNOD 1TREFNIADAU AR GYFER LLYWODRAETH LEOL
Adolygiadau o drefniadau etholiadol: prif gynghorau
41Y cyfnod adolygu ar gyfer adolygiadau prif ardal
(1)
Mae Deddf 2013 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2)
Yn adran 29 (adolygu trefniadau etholiadol ar gyfer prif ardal)—
(a)
yn is-adran (3)—
(i)
yn lle paragraff (a) rhodder—
“(a)
y cyfnod o 12 mlynedd sy’n dechrau ar 30 Medi 2023, a”;
(ii)
ym mharagraff (b), yn lle “10” rhodder “12”;
(b)
ar ôl is-adran (3), mewnosoder—
“(3A)
Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddiwygio is-adran (3).”
(3)
Yn adran 71(2) (gorchmynion a rheoliadau), ar ôl paragraff (ba) (a fewnosodir gan baragraff 1(4)(b) o Ran 1 o Atodlen 1 i’r Ddeddf hon) mewnosoder—
“(bb)
rheoliadau o dan adran 29(3A),”.
(4)
Yn Neddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (dsc 1), yn adran 138 (adolygiadau o drefniadau etholiadol), hepgorer is-adran (6).