RHAN 1GWEINYDDU A CHOFRESTRU ETHOLIADOL

PENNOD 4HYGYRCHEDD AC AMRYWIAETH: ETHOLIADAU CYMREIG

Amrywiaeth ymhlith personau sy’n ceisio swydd etholedig

30Canllawiau ar gyfer pleidiau gwleidyddol i hybu amrywiaeth ymhlith personau sy’n ceisio swydd etholedig

(1)

Rhaid i Weinidogion Cymru ddyroddi canllawiau ar gyfer pleidiau gwleidyddol cofrestredig ynghylch—

(a)

casglu, crynhoi a chyhoeddi gwybodaeth am amrywiaeth ynghylch ymgeiswyr sy’n cynrychioli pleidiau gwleidyddol cofrestredig mewn etholiadau ar gyfer dychwelyd aelodau o Senedd Cymru;

(b)

datblygu, cyhoeddi, gweithredu ac adolygu strategaethau—

(i)

i hybu amrywiaeth yn nodweddion penodedig ac amgylchiadau penodedig ymgeiswyr sy’n cynrychioli pleidiau gwleidyddol cofrestredig mewn etholiadau Cymreig, a

(ii)

i gynorthwyo ymgeiswyr sy’n cynrychioli pleidiau gwleidyddol cofrestredig mewn etholiadau Cymreig i oresgyn rhwystrau sy’n eu hatal rhag cymryd rhan yn yr etholiadau sy’n gysylltiedig â’r ffaith bod ganddynt y nodweddion neu’r amgylchiadau hynny.

(2)

O ran Gweinidogion Cymru—

(a)

rhaid iddynt gyhoeddi canllawiau o dan yr adran hon;

(b)

rhaid iddynt gyhoeddi’r canllawiau cyntaf o dan yr adran hon cyn 1 Mai 2025;

(c)

rhaid iddynt adolygu’r canllawiau a gyhoeddir o bryd i’w gilydd, gan roi sylw i gylch etholiadau cyffredinol cyffredin i fod yn aelodau o Senedd Cymru ac, mewn perthynas â chanllawiau o dan is-adran (1)(b), i gylch etholiadau cyffredin i fod yn aelodau o gynghorau siroedd, bwrdeistrefi sirol a chymunedau yng Nghymru ac i fod yn feiri etholedig;

(d)

cânt ddiwygio ar unrhyw adeg ganllawiau a gyhoeddir.

(3)

Yn yr adran hon—

ystyr “etholiad Cymreig” (“Welsh election”) yw etholiad ar gyfer dychwelyd—

(a)

aelod o Senedd Cymru;

(b)

aelod o gyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru;

(c)

aelod o gyngor cymuned yng Nghymru;

(d)

maer etholedig;

ystyr “gwybodaeth am amrywiaeth” (“diversity information”) yw gwybodaeth benodedig sy’n ymwneud â nodweddion personol neu amgylchiadau personol sydd gan berson;

ystyr “maer etholedig” (“elected mayor”) yw maer etholedig cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru;

ystyr “penodedig” (“specified”) yw wedi ei bennu mewn canllawiau o dan yr adran hon.