RHAN 1GWEINYDDU A CHOFRESTRU ETHOLIADOL
PENNOD 4HYGYRCHEDD AC AMRYWIAETH: ETHOLIADAU CYMREIG
Amrywiaeth ymhlith personau sy’n ceisio swydd etholedig
29Personau a eithrir
Y personau a eithrir at ddibenion adran 28 yw—
(a)
aelod o Lywodraeth Cymru;
(b)
un o adrannau llywodraeth y Deyrnas Unedig;
(c)
person a gyflogir yng ngwasanaeth sifil y wladwriaeth;
(d)
aelod o Dŷ’r Cyffredin;
(e)
aelod o Dŷ’r Arglwyddi;
(f)
Aelod o’r Senedd;
(g)
Comisiwn Senedd Cymru;
(h)
aelod o staff y Senedd (o fewn yr ystyr a roddir i “member of the staff of the Senedd” gan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32));
(i)
cyngor sir, bwrdeistref sirol neu gymuned yng Nghymru;
(j)
cyd-bwyllgor corfforedig a sefydlir gan reoliadau a wneir o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (dsc 1);
(k)
awdurdod Parc Cenedlaethol ar gyfer Parc Cenedlaethol yng Nghymru;
(l)
awdurdod tân ac achub a gyfansoddir gan gynllun o dan adran 2 o Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 (p. 21), neu gynllun y mae adran 4 o’r Ddeddf honno yn gymwys iddo;
(m)
comisiynydd heddlu a throseddu;
(n)
cwmni y mae person a grybwyllir ym mharagraffau (a) i (m) (neu ddau neu ragor o’r personau hynny gyda’i gilydd)—
(i)
yn berchen arno yn llwyr,
(ii)
yn berchen ar fwyafrif syml o’r cyfranddaliadau ynddo, neu
(iii)
yn berchen ar fwy o gyfranddaliadau ynddo nag unrhyw gyfranddaliwr arall;
(o)
aelod o gorff a grybwyllir ym mharagraffau (i) i (l);
(p)
aelod o staff person a grybwyllir ym mharagraffau (i) i (m);
(q)
plaid wleidyddol gofrestredig.