RHAN 1LL+CGWEINYDDU A CHOFRESTRU ETHOLIADOL

PENNOD 4LL+CHYGYRCHEDD AC AMRYWIAETH: ETHOLIADAU CYMREIG

Amrywiaeth ymhlith personau sy’n ceisio swydd etholedigLL+C

28Cynlluniau cymorth ariannol i hybu amrywiaeth ymhlith personau sy’n ceisio swydd etholedigLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddarparu ar gyfer cynlluniau cymorth ariannol (o unrhyw fath penodedig) i gynorthwyo ymgeiswyr mewn etholiad Cymreig sydd â nodweddion penodedig neu amgylchiadau penodedig i oresgyn rhwystrau rhag cymryd rhan yn yr etholiad sy’n gysylltiedig â’r nodweddion neu’r amgylchiadau hynny.

(2)Rhaid i Weinidogion Cymru drwy reoliadau ddarparu ar gyfer cynllun o gymorth ariannol (o unrhyw fath penodedig) i gynorthwyo ymgeiswyr anabl mewn etholiad Cymreig i oresgyn rhwystrau rhag cymryd rhan yn yr etholiad sy’n gysylltiedig â’u hanabledd.

(3)Caiff y rheoliadau o dan is-adran (2) ddarparu mai i fathau penodedig o ymgeiswyr anabl yn unig y caniateir rhoi cymorth ariannol o dan y cynllun.

(4)Cyn gwneud rheoliadau o dan is-adran (1) neu (2) rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r personau hynny y maent yn ystyried eu bod yn briodol.

(5)Caiff Gweinidogion Cymru wneud taliadau i berson sy’n gweithredu cynllun a sefydlir drwy reoliadau o dan yr adran hon, yn ddarostyngedig i delerau ac amodau a benderfynir gan Weinidogion Cymru, at ddibenion ariannu—

(a)cymorth ariannol a wneir o dan y cynllun, a

(b)costau gweithredu’r cynllun.

(6)Rhaid i reoliadau o dan yr adran hon benodi neu ddarparu ar gyfer penodi person i weithredu’r cynllun y maent yn darparu ar ei gyfer.‍

(7)Ni chaniateir i’r cynllun gael ei weithredu gan bersonau a eithrir (gweler adran 29).

(8)Caiff rheoliadau o dan yr adran hon—

(a)rhoi swyddogaethau (gan gynnwys swyddogaethau sy’n ymwneud ag arfer disgresiwn) i berson;

(b)darparu ar gyfer dirprwyo swyddogaethau person o dan y cynllun—

(i)i staff y person;

(ii)pan fo’r person yn gorff, i aelodau o’r corff neu bwyllgor i’r corff;

(c)ei gwneud yn ofynnol i berson y rhoddir swyddogaethau iddo gadw cyfrifon a chofnodion eraill, a’u rhoi ar gael i edrych arnynt;

(d)ei gwneud yn ofynnol i’r person sy’n gweithredu’r cynllun gyhoeddi gwybodaeth benodedig ynghylch cymorth ariannol a roddir yn unol â’r cynllun.

(9)Ni chaiff rheoliadau o dan yr adran hon osod dyletswydd i gyhoeddi gwybodaeth pan fyddai ei chyhoeddi (gan ystyried y ddyletswydd) yn torri’r ddeddfwriaeth diogelu data (o fewn ystyr Deddf Diogelu Data 2018 (p. 12)).

(10)Caiff rheoliadau o dan yr adran hon gynnwys darpariaeth—

(a)y rhoddir cymorth ariannol odani yn ddarostyngedig i amodau a bennir gan y cynllun, neu yn unol â’r cynllun;

(b)y mae’n ofynnol i gymorth ariannol gael ei ad-dalu odani mewn amgylchiadau a bennir gan y cynllun, neu yn unol â’r cynllun.

(11)Mae’r pŵer i wneud rheoliadau o dan yr adran hon yn arferadwy drwy offeryn statudol.

(12)Ni chaniateir gwneud offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau o dan yr adran hon oni bai bod drafft o’r offeryn wedi ei osod gerbron Senedd Cymru ac wedi ei gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad.

(13)Yn yr adran hon—

(14)Nid oes dim byd yn yr adran hon sy’n cyfyngu ar unrhyw un o bwerau eraill Gweinidogion Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 28 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 72(4)

I2A. 28 mewn grym ar 1.1.2025 gan O.S. 2024/1337, ergl. 2(d)