RHAN 1GWEINYDDU A CHOFRESTRU ETHOLIADOL

PENNOD 4HYGYRCHEDD AC AMRYWIAETH: ETHOLIADAU CYMREIG

Amrywiaeth ymhlith personau sy’n ceisio swydd etholedig

27Gwasanaethau i hybu amrywiaeth ymhlith personau sy’n ceisio swydd etholedig

(1)

Rhaid i Weinidogion Cymru wneud trefniadau ar gyfer darparu gwasanaethau i hybu amrywiaeth yn nodweddion gwarchodedig ac amgylchiadau economaidd-gymdeithasol personau sy’n ceisio cael eu hethol yn aelodau o Senedd Cymru ac o gynghorau siroedd, bwrdeistrefi sirol a chymunedau yng Nghymru.

(2)

Rhaid i Weinidogion Cymru, wrth gyflawni eu dyletswydd o dan is-adran (1), roi sylw i’r canlynol—

(a)

a oes grwpiau o bersonau â’r un nodweddion gwarchodedig sy’n cael eu tangynrychioli ymhlith aelodaeth Senedd Cymru neu gynghorau siroedd, bwrdeistrefi sirol a chymunedau yng Nghymru;

(b)

dymunoldeb lleihau’r anghydraddoldeb mewn canlyniadau sy’n deillio o anfantais economaidd-gymdeithasol;

(c)

dymunoldeb‍ bod gwasanaethau ar gael i bersonau ni waeth a ydynt (neu nad ydynt) yn aelodau o blaid wleidyddol gofrestredig.

(3)

Rhaid i’r cwestiwn ynghylch a yw grŵp yn cael ei dangynrychioli ymhlith aelodau corff gael ei ystyried, at ddibenion is-adran (2)(a), drwy gyfeirio at y boblogaeth a wasanaethir gan y corff.

(4)

Nid yw is-adran (1) yn ei gwneud yn ofynnol darparu gwasanaethau mewn cysylltiad â phob grŵp a dangynrychiolir a all gael ei nodi at ddibenion is-adran (2)(a).

(5)

Y gwasanaethau y caniateir eu darparu o dan is-adran (1) yw darparu—

(a)

gwybodaeth;

(b)

cyngor;

(c)

hyfforddiant;

(d)

coetsio a mentora;

(e)

profiad gwaith;

(f)

cyfarpar;

(g)

cymorth â thasgau.

(6)

Rhaid i’r trefniadau o dan is-adran (1) sicrhau nad yw Gweinidogion Cymru yn gwneud penderfyniadau mewn achosion penodol ynghylch a yw unigolyn i gael gwasanaeth o dan y trefniadau.

(7)

Caiff y trefniadau o dan is-adran (1) gynnwys (ymhlith pethau eraill)—

(a)

darparu cymorth ariannol i unigolion a gaiff elwa o wasanaethau er mwyn i’r unigolion brynu’r gwasanaethau eu hunain;

(b)

darparu cymorth ariannol i bersonau sy’n darparu gwasanaethau;

(c)

cynlluniau cymorth ariannol y gwneir darpariaeth ar eu cyfer drwy reoliadau o dan adran 28.

(8)

Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau—

(a)

ychwanegu gwasanaethau eraill at is-adran (5);

(b)

diwygio gwasanaethau a ychwanegir o dan baragraff (a);

(c)

dileu gwasanaethau a ychwanegir o dan baragraff (a).

(9)

Mae’r pŵer i wneud rheoliadau yn is-adran (8) yn arferadwy drwy offeryn statudol.

(10)

Ni chaniateir gwneud offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau o dan is-adran (8) oni bai bod drafft o’r offeryn wedi ei osod gerbron Senedd Cymru ac wedi ei gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad.

(11)

Yn yr adran hon mae i “nodweddion gwarchodedig” yr ystyr a roddir i “protected characteristics” gan adran 4 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 (p. 15).

(12)

Nid oes dim byd yn yr adran hon sy’n cyfyngu unrhyw un o bwerau eraill Gweinidogion Cymru.