RHAN 1GWEINYDDU A CHOFRESTRU ETHOLIADOL

PENNOD 4HYGYRCHEDD AC AMRYWIAETH: ETHOLIADAU CYMREIG

Platfform gwybodaeth am etholiadau Cymreig

26Platfform gwybodaeth am etholiadau Cymreig

(1)

Rhaid i Weinidogion Cymru drwy reoliadau ddarparu ar gyfer sefydlu a gweithredu platfform gwybodaeth am etholiadau Cymreig.

(2)

Cyfleuster electronig (megis gwefan, rhan o wefan neu gymhwysiad meddalwedd) yw platfform gwybodaeth am etholiadau Cymreig er mwyn darparu gwybodaeth gyfredol, neu fynediad at wybodaeth gyfredol o ffynonellau electronig eraill, i etholwyr ynghylch etholiadau penodedig.

(3)

At ddibenion is-adran (2), o ran rheoliadau o dan is-adran (1)—

(a)

rhaid iddynt bennu—

(i)

etholiadau i Senedd Cymru;

(ii)

etholiadau cyffredin i brif gynghorau yng Nghymru;

(b)

cânt bennu etholiadau llywodraeth leol eraill yng Nghymru.

(4)

Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) (ymhlith pethau eraill) wneud darpariaeth—

(a)

sy’n rhoi swyddogaethau i bersonau neu gategorïau o bersonau a bennir yn y rheoliadau;

(b)

ynghylch cyhoeddi gwybodaeth ar y platfform, gan gynnwys—

(i)

cyhoeddi datganiadau gan ymgeiswyr a gwybodaeth arall am ymgeiswyr a phleidiau gwleidyddol cofrestredig;

(ii)

gwybodaeth am y trefniadau hygyrchedd sydd ar waith mewn gorsafoedd pleidleisio;

(c)

sy’n rhoi esemptiad rhag atebolrwydd sifil a throseddol mewn cysylltiad â chyhoeddi datganiadau gan ymgeiswyr a gwybodaeth arall am ymgeiswyr a phleidiau gwleidyddol cofrestredig;

(d)

sy’n sicrhau bod yr wybodaeth ar y platfform ar gael drwy ddulliau ac eithrio rhai electronig.

(5)

Rhaid i reoliadau o dan is-adran (1) ei gwneud yn ofynnol—

(a)

i adroddiad gael ei gyhoeddi ynghylch arfer swyddogaethau a roddir gan y rheoliadau—

(i)

yn achos swyddogaethau a arferir mewn cysylltiad ag etholiadau Senedd Cymru, cyn diwedd cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â diwrnod y pôl ar gyfer yr etholiad hwnnw;

(ii)

yn achos swyddogaethau a arferir mewn cysylltiad ag etholiadau cyffredin prif gynghorau, cyn diwedd cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â diwrnod y pôl ar gyfer yr etholiadau hynny;

(b)

i’r adroddiadau gael eu gosod gerbron Senedd Cymru.

(6)

Mae’r pŵer i wneud rheoliadau o dan yr adran hon yn arferadwy drwy offeryn statudol.

(7)

Ni chaniateir gwneud offeryn statudol sy’n cynnwys darpariaeth mewn rheoliadau o’r math a ddisgrifir yn is-adran (4)(c) oni bai bod drafft o’r offeryn wedi ei osod gerbron Senedd Cymru a’i gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad.

(8)

Mae offeryn statudol sy’n cynnwys unrhyw ddarpariaeth arall mewn rheoliadau o dan yr adran hon yn ddarostyngedig i’w ddiddymu yn unol â phenderfyniad gan Senedd Cymru.

(9)

Yn yr adran hon—

ystyr “etholiadau llywodraeth leol” (“local government elections”) yw etholiadau ar gyfer—

(a)

cynghorwyr i ward etholiadol sir neu fwrdeistref sirol,

(b)

cynghorwyr i ward gymunedol neu, yn achos cymuned lle nad oes wardiau, i’r gymuned, neu

(c)

maer etholedig neu aelod gweithredol etholedig o dan reoliadau a wneir yn rhinwedd adran 44 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (p. 22);

ystyr “penodedig” ac “a bennir” (“specified”) yw wedi ei bennu mewn rheoliadau a wneir o dan is-adran (1).