xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 1LL+CGWEINYDDU A CHOFRESTRU ETHOLIADOL

PENNOD 4LL+CHYGYRCHEDD AC AMRYWIAETH: ETHOLIADAU CYMREIG

Arolwg ymgeiswyr: etholiadau llywodraeth leolLL+C

25Arolwg o gynghorwyr ac ymgeiswyr aflwyddiannus mewn etholiadau lleolLL+C

(1)Mae Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 (mccc 4) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 1 (dyletswydd i gynnal arolwg)—

(a)yn is-adran (1), yn lle “rheoliadau” rhodder “chyfarwyddyd”;

(b)yn lle is-adran (3) rhodder—

(3)Caiff Gweinidogion Cymru roi cyfarwyddyd i awdurdodau lleol sydd—

(a)yn pennu’r cwestiynau y mae rhaid eu gofyn mewn arolwg;

(b)yn pennu gofynion ynghylch—

(i)ffurf yr arolwg;

(ii)sut y mae’r arolwg i’w gynnal;

(iii)crynhoi gwybodaeth o’r arolwg.;

(c)yn is-adran (3A), yn lle “ateb y cwestiynau rhagnodedig” rhodder “ymateb i’r arolwg”;

(d)ar ôl is-adran (3A), mewnosoder—

(3B)Caiff awdurdod lleol gynnwys cwestiynau mewn arolwg, neu drefnu i gwestiynau gael eu cynnwys mewn arolwg, yn ychwanegol at y cwestiynau sy’n ofynnol drwy gyfarwyddyd gan Weinidogion Cymru o dan yr adran hon.;

(e)yn is-adran (4), yn lle “rhagnodi” rhodder “pennu mewn cyfarwyddyd”.

(3)Yn adran 2 (cwblhau arolwg a chyhoeddi gwybodaeth), yn is-adran (2), yn lle “ar unrhyw ffurf ragnodedig neu mewn unrhyw ddull rhagnodedig” rhodder “ar y ffurf neu yn y dull a gyfarwyddir gan Weinidogion Cymru”.

(4)Ar ôl adran 3 (canllawiau ynghylch arolygon), mewnosoder—

3ACyhoeddi cyfarwyddiadau ynghylch arolygon

Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi unrhyw gyfarwyddyd a roddir o adran 1(3) neu 2(2).

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 25 mewn grym ar 9.11.2024, gweler a. 72(2)(b)