RHAN 1GWEINYDDU A CHOFRESTRU ETHOLIADOL

PENNOD 4HYGYRCHEDD AC AMRYWIAETH: ETHOLIADAU CYMREIG

Arolwg ymgeiswyr: etholiadau llywodraeth leol

25Arolwg o gynghorwyr ac ymgeiswyr aflwyddiannus mewn etholiadau lleol

(1)

Mae Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 (mccc 4) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2)

Yn adran 1 (dyletswydd i gynnal arolwg)—

(a)

yn is-adran (1), yn lle “rheoliadau” rhodder “chyfarwyddyd”;

(b)

yn lle is-adran (3) rhodder—

“(3)

Caiff Gweinidogion Cymru roi cyfarwyddyd i awdurdodau lleol sydd—

(a)

yn pennu’r cwestiynau y mae rhaid eu gofyn mewn arolwg;

(b)

yn pennu gofynion ynghylch—

(i)

ffurf yr arolwg;

(ii)

sut y mae’r arolwg i’w gynnal;

(iii)

crynhoi gwybodaeth o’r arolwg.”;

(c)

yn is-adran (3A), yn lle “ateb y cwestiynau rhagnodedig” rhodder “ymateb i’r arolwg”;

(d)

ar ôl is-adran (3A), mewnosoder—

“(3B)

Caiff awdurdod lleol gynnwys cwestiynau mewn arolwg, neu drefnu i gwestiynau gael eu cynnwys mewn arolwg, yn ychwanegol at y cwestiynau sy’n ofynnol drwy gyfarwyddyd gan Weinidogion Cymru o dan yr adran hon.”;

(e)

yn is-adran (4), yn lle “rhagnodi” rhodder “pennu mewn cyfarwyddyd”.

(3)

Yn adran 2 (cwblhau arolwg a chyhoeddi gwybodaeth), yn is-adran (2), yn lle “ar unrhyw ffurf ragnodedig neu mewn unrhyw ddull rhagnodedig” rhodder “ar y ffurf neu yn y dull a gyfarwyddir gan Weinidogion Cymru”.

(4)

Ar ôl adran 3 (canllawiau ynghylch arolygon), mewnosoder—

“3ACyhoeddi cyfarwyddiadau ynghylch arolygon

Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi unrhyw gyfarwyddyd a roddir o adran 1(3) neu 2(2).”