(1)Mae’r pŵer i wneud rheoliadau diwygio etholiadol yn arferadwy drwy offeryn statudol.
(2)Pan fydd offeryn statudol neu offeryn statudol drafft sy’n cynnwys rheoliadau diwygio etholiadol yn cael ei osod gerbron Senedd Cymru at ddibenion yr adran hon, rhaid i Weinidogion Cymru hefyd osod gerbron y Senedd gopi o’r adroddiad ar y rheoliadau sydd wedi ei lunio gan y Comisiwn Etholiadol o dan adran 17.
(3)Ni chaniateir gwneud offeryn statudol y mae’r is-adran hon yn gymwys iddo oni bai bod drafft o’r offeryn wedi ei osod gerbron Senedd Cymru ac wedi ei gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad.
(4)Mae is-adran (3) yn gymwys i offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau diwygio etholiadol sy’n gwneud darpariaeth—
(a)i addasu deddfwriaeth sylfaenol,
(b)i greu trosedd neu ehangu ei chwmpas, neu
(c)i greu neu ddiwygio pŵer i ddeddfu.
(5)Mae unrhyw offeryn statudol arall sy’n cynnwys rheoliadau diwygio etholiadol yn ddarostyngedig i’w ddiddymu yn unol â phenderfyniad gan Senedd Cymru, oni bai bod drafft o’r offeryn wedi ei osod gerbron Senedd Cymru ac wedi ei gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad.
(6)Mae is-adran (7) yn gymwys os yw Gweinidogion Cymru o’r farn mai’r weithdrefn briodol ar gyfer offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau diwygio etholiadol yw iddo fod yn ddarostyngedig i’w ddiddymu yn unol â phenderfyniad gan Senedd Cymru.
(7)Ni chaiff Gweinidogion Cymru wneud yr offeryn fel ei fod yn ddarostyngedig i’r weithdrefn honno oni bai—
(a)bod amod 1 wedi ei fodloni, a
(b)bod naill ai amod 2 neu 3 wedi ei fodloni.
(8)Amod 1 yw bod Gweinidogion Cymru—
(a)wedi gwneud datganiad ysgrifenedig i’r perwyl y dylai’r offeryn yn eu barn hwy fod yn ddarostyngedig i’w ddiddymu yn unol â phenderfyniad gan Senedd Cymru, a
(b)wedi gosod gerbron y Senedd—
(i)drafft o’r offeryn, a
(ii)memorandwm sy’n cynnwys y datganiad a rhesymau Gweinidogion Cymru dros eu barn.
(9)Amod 2 yw bod pwyllgor yn Senedd Cymru a chanddo’r gorchwyl o wneud hynny wedi gwneud argymhelliad o ran y weithdrefn briodol ar gyfer yr offeryn.
(10)Amod 3 yw bod y cyfnod o 14 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod cyntaf ar ôl y diwrnod y gosodwyd yr offeryn drafft gerbron Senedd Cymru fel y’i crybwyllir yn is-adran (8) wedi dod i ben heb i unrhyw argymhelliad gael ei wneud fel y’i crybwyllir yn is-adran (9).
(11)Nid oes dim byd yn yr adran hon sy’n atal Gweinidogion Cymru rhag penderfynu ar unrhyw adeg cyn gwneud offeryn statudol y mae is-adran (5) yn gymwys iddo y dylai gweithdrefn arall fod yn gymwys i’r offeryn.
(12)Os yw’r rheoliadau drafft a osodwyd o dan yr adran hon, ar ôl i’r cyfnod o 40 o ddiwrnodau ddod i ben, wedi eu cymeradwyo drwy benderfyniad gan Senedd Cymru, caiff Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau gan ddilyn ffurf y rheoliadau drafft, yn ddarostyngedig i is-adran (13).
(13)Mae’r weithdrefn yn is-adrannau (14) i (19) yn gymwys i’r rheoliadau drafft yn lle’r weithdrefn yn is-adran (12)—
(a)os yw naill ai Senedd Cymru yn penderfynu felly o fewn y cyfnod o 30 o ddiwrnodau, neu
(b)os yw pwyllgor yn Senedd Cymru a chanddo’r gorchwyl o adrodd ar y rheoliadau drafft yn argymell felly o fewn y cyfnod o 30 o ddiwrnodau ac nad yw Senedd Cymru drwy benderfyniad yn gwrthod yr argymhelliad o fewn y cyfnod hwnnw.
(14)Rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw—
(a)i unrhyw sylwadau,
(b)i unrhyw benderfyniad gan Senedd Cymru, ac
(c)i unrhyw argymhellion gan bwyllgor yn Senedd Cymru a chanddo’r gorchwyl o adrodd ar y rheoliadau drafft,
a wneir yn ystod y cyfnod o 60 o ddiwrnodau mewn cysylltiad â’r rheoliadau drafft.
(15)Os yw Gweinidogion Cymru, ar ôl i’r cyfnod o 60 o ddiwrnodau ddod i ben, yn dymuno bwrw ymlaen â’r rheoliadau drafft heb newidiadau o sylwedd pan fo newidiadau o sylwedd wedi eu hargymell gan bwyllgor yn Senedd Cymru a chanddo’r gorchwyl o adrodd ar y rheoliadau drafft—
(a)rhaid i Weinidogion Cymru osod gerbron Senedd Cymru ddatganiad sy’n egluro eu rhesymau dros beidio â derbyn argymhellion y pwyllgor (pa un ai’n gyfan gwbl neu’n rhannol), a
(b)os yw’r rheoliadau drafft wedi eu cymeradwyo drwy benderfyniad gan Senedd Cymru yn ddiweddarach, caiff Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau gan ddilyn ffurf y rheoliadau drafft.
(16)Os yw Gweinidogion Cymru, ar ôl i’r cyfnod o 60 o ddiwrnodau ddod i ben, yn dymuno bwrw ymlaen â’r rheoliadau drafft heb newidiadau o sylwedd pan na fo unrhyw newidiadau o sylwedd wedi eu hargymell gan bwyllgor yn Senedd Cymru a chanddo’r gorchwyl o adrodd ar y rheoliadau drafft ac os yw’r rheoliadau drafft wedi eu cymeradwyo drwy benderfyniad gan Senedd Cymru, caiff Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau gan ddilyn ffurf y rheoliadau drafft.
(17)Os yw Gweinidogion Cymru, ar ôl i’r cyfnod o 60 o ddiwrnodau ddod i ben, yn dymuno bwrw ymlaen â’r rheoliadau drafft ond gyda newidiadau o sylwedd, rhaid i Weinidogion Cymru osod gerbron Senedd Cymru—
(a)rheoliadau drafft diwygiedig, a
(b)datganiad sy’n rhoi crynodeb o’r newidiadau a gynigir ac, os yw is-adran (18) yn gymwys, sy’n egluro rhesymau Gweinidogion Cymru dros beidio â derbyn (pa un ai’n gyfan gwbl neu’n rhannol) argymhellion gan bwyllgor yn Senedd Cymru a chanddo’r gorchwyl o adrodd ar y rheoliadau drafft.
(18)Mae’r is-adran hon yn gymwys—
(a)os yw’r newidiadau o sylwedd yn y rheoliadau drafft diwygiedig yn sylweddol wahanol i’r newidiadau sydd wedi eu hargymell gan y pwyllgor, neu
(b)os nad yw’r rheoliadau drafft diwygiedig yn cynnwys newidiadau o sylwedd sydd wedi eu hargymell gan y pwyllgor.
(19)Os yw’r rheoliadau drafft diwygiedig wedi eu cymeradwyo drwy benderfyniad gan Senedd Cymru, caiff Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau gan ddilyn ffurf y rheoliadau drafft diwygiedig.
(20)At ddibenion yr adran hon mae rheoliadau wedi eu gwneud gan ddilyn ffurf y rheoliadau drafft neu’r rheoliadau drafft diwygiedig os nad ydynt yn cynnwys newidiadau o sylwedd i’w darpariaethau.
(21)Yn yr adran hon mae cyfeiriadau at y cyfnodau “30 o ddiwrnodau”, “40 o ddiwrnodau” a “60 o ddiwrnodau” mewn perthynas ag unrhyw reoliadau drafft yn gyfeiriadau at y cyfnodau o 30, 40 a 60 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y gosodwyd y rheoliadau drafft gerbron Senedd Cymru.
(22)At ddibenion is-adrannau (10) a (21) nid oes unrhyw ystyriaeth i gael ei rhoi i unrhyw adeg pan fydd Senedd Cymru wedi ei diddymu neu ar doriad am fwy na 4 diwrnod.
(23)Nid yw adran 6(1) o Ddeddf Offerynnau Statudol 1946 (p. 36) fel y’i cymhwysir gan adran 11A o’r Ddeddf honno (gweithdrefn amgen ar gyfer offerynnau penodol a osodir ar ffurf ddrafft gerbron Senedd Cymru) yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw offeryn statudol y mae’r adran hon yn gymwys iddo.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 19 mewn grym ar 10.9.2024, gweler a. 72(1)(a)