RHAN 1GWEINYDDU A CHOFRESTRU ETHOLIADOL
PENNOD 3PEILOTA A DIWYGIO ETHOLIADAU CYMREIG
Diwygio yn dilyn peilotau
18Rheoliadau diwygio etholiadol
(1)
Mae’r pŵer yn is-adran (3) yn gymwys—
(a)
os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried, yng ngoleuni adroddiad a wneir o dan adran 17 ar weithrediad rheoliadau peilot, y byddai’n ddymunol cyflawni’r canlyniad diwygio yn is-adran (2) (“y canlyniad diwygio”), a
(b)
os yw’r Comisiwn Etholiadol yn argymell gwneud rheoliadau o dan yr adran hon i gyflawni’r canlyniad diwygio.
(2)
Y canlyniad diwygio yw bod darpariaeth sy’n debyg i’r ddarpariaeth honno a wneir gan y rheoliadau peilot yn gymwys yn gyffredinol, ac ar sail barhaol, mewn perthynas ag etholiadau Cymreig neu unrhyw fath o etholiad Cymreig.
(3)
Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth ar gyfer materion etholiadol perthnasol, neu mewn cysylltiad â hwy, er mwyn cyflawni’r canlyniad diwygio (“rheoliadau diwygio etholiadol”).
(4)
Nid oes dim byd yn yr adran hon sy’n effeithio ar bwerau eraill Gweinidogion Cymru i wneud darpariaeth ar gyfer materion etholiadol perthnasol, neu mewn cysylltiad â hwy, er mwyn cyflawni’r canlyniad diwygio.
(5)
Caiff rheoliadau diwygio etholiadol greu, dileu neu addasu troseddau.
(6)
Ni chaiff rheoliadau diwygio etholiadol greu trosedd y caniateir ei chosbi (neu addasu trosedd fel y daw’n drosedd y caniateir ei chosbi)—
(a)
ar euogfarn ar dditiad, drwy garcharu am gyfnod sy’n hwy nag un flwyddyn;
(b)
ar euogfarn ddiannod, drwy garcharu am gyfnod sy’n hwy na’r terfyn cymwys ar gyfer trosedd ddiannod neu drosedd neillffordd (yn ôl y digwydd) o dan adran 224(1A) o’r Cod Dedfrydu (fel y mae’n cael effaith o bryd i’w gilydd).
(7)
Caiff rheoliadau diwygio etholiadol roi, dileu neu addasu pŵer i wneud is-ddeddfwriaeth.
(8)
Os bydd rheoliadau diwygio etholiadol yn creu pŵer i wneud is-ddeddfwriaeth, rhaid i’r rheoliadau ddarparu—
(a)
bod yr is-ddeddfwriaeth i gael ei gwneud drwy offeryn statudol, a
(b)
na chaniateir gwneud yr offeryn oni bai bod drafft ohono wedi ei osod gerbron Senedd Cymru ac wedi ei gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad.