RHAN 1GWEINYDDU A CHOFRESTRU ETHOLIADOL

PENNOD 3PEILOTA A DIWYGIO ETHOLIADAU CYMREIG

Canllawiau ar beilotau

16Canllawiau ar beilotau

(1)

Mewn perthynas â phob offeryn sy’n cynnwys rheoliadau peilot, rhaid i Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru roi canllawiau ysgrifenedig i bersonau sy’n gyfrifol am roi’r rheoliadau ar waith.

(2)

Rhaid i’r canllawiau gynnwys cyngor ynghylch—

(a)

y trefniadau y mae eu hangen ar gyfer y peilot;

(b)

yr hyfforddiant staff sy’n ofynnol ar gyfer y peilot;

(c)

rhedeg y peilot yn unol â’r rheoliadau peilot.

(3)

Caiff y canllawiau gynnwys gwybodaeth neu gyngor ar unrhyw fater arall y mae Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru yn ystyried ei fod yn berthnasol i’r peilot.

(4)

Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau bennu materion pellach y mae rhaid i Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru eu cynnwys yn y canllawiau.

(5)

Mae’r pŵer i wneud rheoliadau yn is-adran (4) yn arferadwy drwy offeryn statudol.

(6)

Mae offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau o dan is-adran (4) yn ddarostyngedig i’w ddiddymu yn unol â phenderfyniad gan Senedd Cymru.