RHAN 1GWEINYDDU A CHOFRESTRU ETHOLIADOL

PENNOD 3PEILOTA A DIWYGIO ETHOLIADAU CYMREIG

Gwerthuso cynigion ar gyfer peilot

14Gwerthuso cynigion ar gyfer peilot

(1)

Pan fydd cynigion ar gyfer rheoliadau peilot yn cael eu cyflwyno i Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru o dan adrannau 8 i 11, rhaid i’r Comisiwn lunio adroddiad ar y cynigion.

(2)

Rhaid i’r adroddiad gynnwys asesiad o’r canlynol—

(a)

pa un a yw amcan y peilot arfaethedig yn ddymunol;

(b)

costau tebygol y peilot arfaethedig a’i ddichonoldeb.

(3)

Wrth wneud ei asesiad at ddibenion yr adroddiad, rhaid i Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru roi sylw i unrhyw ffactorau perthnasol a bennir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.

(4)

Caiff yr adroddiad gynnwys argymhellion ar unrhyw fater y mae Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru yn ystyried ei fod yn berthnasol i’r peilot arfaethedig.

(5)

Rhaid i awdurdod cyhoeddus sy’n cyflwyno cynigion i Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru o dan unrhyw un o adrannau 8 i 11 roi i’r Comisiwn unrhyw gymorth sy’n rhesymol ofynnol gan y Comisiwn mewn cysylltiad â llunio’r adroddiad.

(6)

Rhaid i Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru anfon ei adroddiad at y person a gyflwynodd y cynnig cyn diwedd cyfnod o 6 wythnos sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’n cael y cynigion.

(7)

Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi adroddiad a anfonir atynt o dan yr adran hon neu adrannau 9 i 11 pan fyddant yn gwneud y rheoliadau peilot.

(8)

Mae’r pŵer i wneud rheoliadau yn is-adran (3) yn arferadwy drwy offeryn statudol.

(9)

Mae offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau o dan is-adran (3) yn ddarostyngedig i’w ddiddymu yn unol â phenderfyniad gan Senedd Cymru.