RHAN 1LL+CGWEINYDDU A CHOFRESTRU ETHOLIADOL

PENNOD 3LL+CPEILOTA A DIWYGIO ETHOLIADAU CYMREIG

Cynigion ar gyfer peilotauLL+C

12Cynigion ar y cyd ar gyfer peilotauLL+C

(1)Caiff person y caniateir iddo wneud cynnig o dan unrhyw un o adrannau 9 i 11 wneud y cynnig ar y cyd ag un neu ragor o bersonau eraill sy’n gwneud cynnig o dan unrhyw un o’r adrannau hynny.

(2)Nid yw unrhyw ddyletswydd i ymgynghori â pherson y mae’r person yn gwneud cynnig ar y cyd ag ef yn gymwys.

(3)Os yw’r cynnig ar y cyd yn ymwneud â materion nad oes gan y person y pŵer i’w cynnig, caiff y person wneud y cynnig o hyd, i’r graddau y mae gan y person y pŵer i wneud hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 12 mewn grym ar 10.9.2024, gweler a. 72(1)(a)