RHAN 1GWEINYDDU A CHOFRESTRU ETHOLIADOL

PENNOD 3PEILOTA A DIWYGIO ETHOLIADAU CYMREIG

Cynigion ar gyfer peilotau

12Cynigion ar y cyd ar gyfer peilotau

(1)

Caiff person y caniateir iddo wneud cynnig o dan unrhyw un o adrannau 9 i 11 wneud y cynnig ar y cyd ag un neu ragor o bersonau eraill sy’n gwneud cynnig o dan unrhyw un o’r adrannau hynny.

(2)

Nid yw unrhyw ddyletswydd i ymgynghori â pherson y mae’r person yn gwneud cynnig ar y cyd ag ef yn gymwys.

(3)

Os yw’r cynnig ar y cyd yn ymwneud â materion nad oes gan y person y pŵer i’w cynnig, caiff y person wneud y cynnig o hyd, i’r graddau y mae gan y person y pŵer i wneud hynny.