RHAN 1GWEINYDDU A CHOFRESTRU ETHOLIADOL

PENNOD 3PEILOTA A DIWYGIO ETHOLIADAU CYMREIG

Cynigion ar gyfer peilotau

11Cynigion ar gyfer peilotau a wneir gan swyddogion cofrestru etholiadol

(1)

Caiff swyddog cofrestru etholiadol gynnig i Weinidogion Cymru fod rheoliadau peilot yn cael eu gwneud mewn perthynas â chanfod—

(a)

enwau a chyfeiriadau personau nad ydynt wedi eu cofrestru mewn cofrestr ond y mae ganddynt hawlogaeth i fod yn gofrestredig;

(b)

y personau hynny sydd wedi eu cofrestru mewn cofrestr ond nad oes ganddynt hawlogaeth i fod yn gofrestredig.

(2)

Cyn gwneud cynnig o dan is-adran (1), rhaid i swyddog cofrestru etholiadol ymgynghori â Gweinidogion Cymru.

(3)

Ar ôl ymgynghori yn unol ag is-adran (2) a chyn gwneud cynnig o dan is-adran (1), rhaid i’r swyddog cofrestru etholiadol—

(a)

cyflwyno’r cynnig i Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru ar gyfer y peilot y darperir ar ei gyfer mewn rheoliadau, a

(b)

rhoi sylw i adroddiad y Comisiwn ar y cynnig o dan adran 14.

(4)

Os bydd swyddog cofrestru etholiadol yn gwneud cynnig o dan is-adran (1), rhaid i’r swyddog anfon copi o adroddiad Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru ar y cynnig o dan adran 14 at Weinidogion Cymru.