Trosolwg Cyffredinol O’R Ddeddf

2.Mae’r Ddeddf wedi ei rhannu yn 3 Rhan sy’n cynnwys 73 o adrannau, ac Atodlen o fân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol i ddeddfwriaeth arall.

Rhan 1 – Gweinyddu a Chofrestru Etholiadol

3.Mae Rhan 1 yn cynnwys darpariaethau ynghylch gweinyddu etholiadol a chofrestru etholiadol mewn cysylltiad ag etholiadau Senedd Cymru ac etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru, ac mae wedi ei rhannu’n 5 pennod.

4.Mae Pennod 1 yn ymwneud â chydlynu gwaith gweinyddu etholiadol ar gyfer etholiadau Senedd Cymru, etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru a refferenda datganoledig. Mae’r Bennod yn rhoi swyddogaethau newydd i Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru (“y Comisiwn”) ac mae’n ei gwneud yn ofynnol i’r Comisiwn sefydlu Bwrdd Rheoli Etholiadol (“y Bwrdd”) i gyflawni’r swyddogaethau.

5.Mae Pennod 2 yn gosod dyletswydd ar swyddogion cofrestru etholiadol yng Nghymru i gofrestru personau fel etholwyr llywodraeth leol heb i gais i gofrestru gael ei wneud, os ydynt wedi eu bodloni bod gan y personau hawlogaeth i fod yn gofrestredig. Mae cofrestru fel etholwr llywodraeth leol yn rhoi hawlogaeth i berson i bleidleisio yn etholiadau Senedd Cymru yn ogystal ag mewn etholiadau llywodraeth leol. Mae’r Bennod hefyd yn darparu ar gyfer gweithdrefn i swyddogion cofrestru etholiadol roi hysbysiad i bobl o’u bwriad i’w cofrestru fel etholwyr llywodraeth leol ac mae’n gwneud darpariaeth ar gyfer yr amgylchiadau pan nad yw’r ddyletswydd i gofrestru yn gymwys.

6.Mae Pennod 3 yn darparu pŵer i Weinidogion Cymru drwy reoliadau i awdurdodi peilota diwygiadau i’r gyfraith sy’n ymwneud ag etholiadau Senedd Cymru ac etholiadau lleol yng Nghymru. Mae’r Bennod yn gwneud darpariaeth i awdurdodau cyhoeddus sydd â swyddogaethau sy’n ymwneud â gweinyddu etholiadol wneud cynigion i Weinidogion Cymru ar gyfer peilotau etholiadol, yn gwneud darpariaeth ar gyfer gwerthuso cynigion ar gyfer peilotau ac ar gyfer gwerthuso’r peilotau, ac mae’n rhoi pŵer i Weinidogion Cymru drwy reoliadau i wneud newidiadau parhaol i’r gyfraith yn dilyn peilotau.

7.Mae Pennod 4 yn cynnwys darpariaeth ynghylch materion hygyrchedd ac amrywiaeth sy’n ymwneud ag etholiadau Senedd Cymru ac etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru. Mae’n cynnwys darpariaeth—

8.Mae Pennod 5 yn gwneud darpariaeth ynghylch rheoleiddio treuliau yr eir iddynt mewn ymgyrchoedd etholiad yn etholiadau Senedd Cymru ac mewn etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru, gan gynnwys darpariaeth—

Rhan 2 – Cyrff Etholedig a’u Haelodau

9.Mae Rhan 2 o’r Ddeddf yn gwneud darpariaeth ynghylch adolygiadau o ffiniau a threfniadau etholiadol awdurdodau lleol, cydnabyddiaeth ariannol aelodau awdurdodau lleol, anghymhwyso rhag aelodaeth o Senedd Cymru ac awdurdodau lleol a’r drosedd o ddylanwad amhriodol. Mae’r Rhan wedi ei rhannu’n 4 pennod.

10.Mae Pennod 1 yn diwygio Rhan 3 o Ddeddf Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru etc. 2013 (y cyfeirir ati fel “Deddf 2013” o hyn ymlaen), sy’n gwneud darpariaeth ynghylch adolygiadau o ffiniau a threfniadau etholiadol cynghorau siroedd, bwrdeistrefi sirol a chymunedau yng Nghymru. Mae’r bennod—

11.Mae Pennod 2 yn diddymu Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol ac yn rhoi ei swyddogaethau i’r Comisiwn.

12.Mae Pennod 3 yn cynnwys darpariaethau ar gyfer anghymhwyso rhag bod yn Aelod o’r Senedd ac yn gynghorydd cymuned, ac am y drosedd o ddylanwad amhriodol. Mae hefyd yn cynnwys darpariaethau sy’n atal person sy’n dal swydd o dan gyfyngiadau gwleidyddol, pan fo’r swydd honno o dan gyngor cymuned, cyd-bwyllgor corfforedig, neu awdurdod lleol ym Mhrydain Fawr, rhag dod yn aelod o gyngor cymuned neu barhau i fod yn aelod o gyngor cymuned.

13.Mae Pennod 4 yn gwneud newidiadau i Ddeddf 2013 sy’n ymwneud â phersonau na chaniateir iddynt fod yn aelodau o’r Comisiwn, yn brif weithredwr arno nac yn gomisiynydd cynorthwyol arno. Mae hefyd yn cynnwys darpariaeth ar gyfer pwyllgor llywodraethu ac archwilio i’r Comisiwn ac yn rhoi pŵer i’r Comisiwn i godi tâl am nwyddau a gwasanaethau y mae’n eu darparu.

Rhan 3 – Darpariaeth Gyffredinol

14.Mae Rhan 3 yn cynnwys darpariaethau sy’n gymwys i’r Ddeddf yn gyffredinol, gan gynnwys darpariaeth ddehongli gyffredinol, pŵer i Weinidogion Cymru wneud darpariaeth ganlyniadol a throsiannol drwy reoliadau a darpariaeth ynghylch dod â’r Ddeddf i rym.