xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Deddf gan Senedd Cymru i wneud darpariaeth ynghylch gweinyddu a chofrestru etholiadol yng Nghymru; peilota newidiadau i’r system etholiadol yng Nghymru; y system i adolygu trefniadau ar gyfer llywodraeth leol yng Nghymru; anghymhwyso cynghorwyr cymuned rhag bod yn aelodau o Senedd Cymru; yr arfer llwgr o ddylanwad amhriodol fel y mae’n gymwys i etholiadau Senedd Cymru ac etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru; a swyddogaethau a chyfansoddiad Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru.
[9 Medi 2024]
Gan ei fod wedi ei basio gan Senedd Cymru ac wedi derbyn cydsyniad Ei Fawrhydi, deddfir fel a ganlyn: