RHAN 5ADOLYGIAD O WEITHREDIAD Y DDEDDF ETC. A DARPARIAETHAU CYFFREDINOL
Cyffredinol
22Rheoliadau o dan y Ddeddf hon
(1)
Nid yw’r adran hon yn gymwys i reoliadau a wneir o dan baragraff 9 o Atodlen 2.
(2)
Mae pŵer i wneud rheoliadau o dan y Ddeddf hon yn arferadwy drwy offeryn statudol.
(3)
Mae pŵer i wneud rheoliadau o dan y Ddeddf hon yn cynnwys pŵer i wneud darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol.
(4)
Ni chaniateir gwneud offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau a—
(a)
wneir o dan adran 20 sy’n diwygio, yn diddymu neu’n addasu ddeddfiad a geir mewn deddfwriaeth sylfaenol, neu
(b)
wneir o dan adran 21,
oni bai bod drafft o’r offeryn wedi ei osod gerbron y Senedd ac wedi ei gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad.
(5)
Mae unrhyw offeryn statudol arall sy’n cynnwys rheoliadau a wneir o dan adran 20 yn ddarostyngedig i’w ddiddymu yn unol â phenderfyniad gan y Senedd.
(6)
Yn yr adran hon, ystyr “deddfwriaeth sylfaenol” yw—
(a)
Deddf gan Senedd Cymru;
(b)
Mesur Cynulliad;
(c)
Deddf gan Senedd y Deyrnas Unedig.