RHAN 4ADOLYGU FFINIAU ETHOLAETHAU’R SENEDD

18Etholaethau’r Senedd ar gyfer etholiadau cyffredinol a gynhelir ar ôl i reoliadau o dan adran 49J o Ddeddf 2013 gymryd effaith

Mae Atodlen 3 yn mewnosod Rhan 3A newydd yn Neddf 2013; mae’r Rhan honno yn gwneud darpariaeth ynghylch swyddogaethau Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru o ran penderfynu beth fydd etholaethau’r Senedd yr etholir‍ Aelodau o’r Senedd drostynt mewn etholiadau cyffredinol y cynhelir y pleidleisiau ar eu cyfer ar ôl‍ i’r set gyntaf o reoliadau a wneir o dan adran 49J o Ddeddf 2013 gymryd effaith.