Mae Atodlen 2 yn gwneud darpariaeth ynghylch etholaethau’r Senedd yr etholir Aelodau o’r Senedd drostynt mewn etholiad cyffredinol y cynhelir y bleidlais ar ei gyfer ar ôl 6 Ebrill 2026 a chyn i’r set gyntaf o reoliadau a wneir o dan adran 49J o Ddeddf 2013 gymryd effaith; ac yn benodol, ynghylch swyddogaethau Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru o ran penderfynu beth fydd yr etholaethau hynny.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 17 mewn grym ar 25.6.2024, gweler a. 25(1)(b)