RHAN 4ADOLYGU FFINIAU ETHOLAETHAU’R SENEDD

17Etholaethau’r Senedd ar gyfer etholiad cyffredinol a gynhelir ar ôl 6 Ebrill 2026 a chyn i reoliadau o dan adran 49J o Ddeddf 2013 gymryd effaith

Mae Atodlen 2 yn gwneud darpariaeth ynghylch etholaethau’r Senedd yr etholir‍ Aelodau o’r Senedd drostynt‍ mewn etholiad cyffredinol y cynhelir y bleidlais ar ei gyfer ar ôl 6 Ebrill 2026 a chyn i’r set gyntaf o reoliadau a wneir o dan adran 49J o Ddeddf 2013 gymryd effaith; ac yn benodol, ynghylch swyddogaethau Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru o ran penderfynu beth fydd yr etholaethau hynny.