RHAN 3COMISIWN DEMOCRATIAETH A FFINIAU CYMRU

16Comisiynwyr cynorthwyol

(1)

Yn adran 11 o Ddeddf 2013 (comisiynwyr cynorthwyol y caniateir dirprwyo iddynt swyddogaethau sy’n ymwneud â llywodraeth leol)—

(a)

yn lle is-adran (1) rhodder—

“(1)

Caiff y Comisiwn benodi un neu ragor o bersonau (a elwir yn “comisiynydd cynorthwyol) y caiff y Comisiwn ddirprwyo swyddogaethau iddo neu iddynt yn unol ag adran 13(1).”;

(b)

yn is-adran (2)—

(i)

yn lle “Ond ni chaiff y Comisiwn benodi person sydd yn” rhodder “Ni chaiff comisiynydd cynorthwyol fod yn”;

(ii)

yn lle paragraff‍ (a) rhodder‍—

“(a)

aelod o un o ddeddfwrfeydd y DU;”;

(iii)

yn lle paragraff (b) rhodder—

“(ba)

person a gymerir ymlaen gan aelod‍ o un o ddeddfwrfeydd y DU, o dan gontract gwasanaeth neu gontract am wasanaethau mewn cysylltiad â chyflawni swyddogaethau’r aelod;

(bb)

person a gymerir ymlaen gan blaid wleidyddol gofrestredig o dan gontract gwasanaeth neu gontract am wasanaethau;

(bc)

cynghorydd arbennig‍;”.

(2)

Yn adran 13(1) o’r Ddeddf honno (dirprwyo), yn lle “gomisiynydd cynorthwyol” rhodder “un neu fwy o’i gomisiynwyr cynorthwyol”.

(3)

Yn y tabl yn Rhan 2 o Atodlen 1A i Ddeddf 2006 (swyddi sy’n anghymhwyso’r deiliad rhag bod yn Aelod o’r Senedd neu’n ymgeisydd mewn etholiad i fod yn Aelod o’r Senedd), ar ôl y cofnod ar gyfer “Comptroller and Auditor General or Rheolwr ac Archwilydd Cyffredinol” mewnosoder—

“‍Democracy and Boundary Commission Cymru or Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru

The members, assistant commissioners and chief executive of the Commission”.