(1)Yn adran 4(3) o Ddeddf 2013 (personau na chaniateir eu penodi yn aelodau o’r Comisiwn)—
(a)yn lle “Ni chaiff Gweinidogion Cymru benodi person sydd yn” rhodder “Ni chaiff aelod fod yn”;
(b)yn lle paragraff (a) rhodder—
“(a)aelod o un o ddeddfwrfeydd y DU;”;
(c)yn lle paragraff (b) rhodder—
“(ba)person a gymerir ymlaen gan aelod o un o ddeddfwrfeydd y DU, o dan gontract gwasanaeth neu gontract am wasanaethau, mewn cysylltiad â chyflawni swyddogaethau’r aelod;
(bb)person a gymerir ymlaen gan blaid wleidyddol gofrestredig o dan gontract gwasanaeth neu gontract am wasanaethau;
(bc)cynghorydd arbennig;”.
(2)Yn adran 8(4) o’r Ddeddf honno (personau na chaniateir eu penodi yn brif weithredwr)—
(a)yn lle paragraff (a) rhodder—
“(a)aelod o un o ddeddfwrfeydd y DU;”;
(b)yn lle paragraff (b) rhodder—
“(ba)person a gymerir ymlaen gan aelod o un o ddeddfwrfeydd y DU, o dan gontract gwasanaeth neu gontract am wasanaethau, mewn cysylltiad â chyflawni swyddogaethau’r aelod;
(bb)person a gymerir ymlaen gan blaid wleidyddol gofrestredig o dan gontract gwasanaeth neu gontract am wasanaethau;
(bc)cynghorydd arbennig;”.
(3)Yn adran 72(1) o’r Ddeddf honno (dehongli), yn y lleoedd priodol mewnosoder—
“ystyr “aelod o un o ddeddfwrfeydd y DU” yw—
Aelod o’r Senedd;
aelod o Dŷ’r Cyffredin;
aelod o Dŷ’r Arglwyddi;
aelod o Senedd yr Alban;
aelod o Gynulliad Gogledd Iwerddon,”;
“ystyr “cynghorydd arbennig” yw cynghorydd arbennig o fewn yr ystyr a roddir i “special adviser”—
ym Mhennod 1 o Ran 1 o Ddeddf Diwygio Cyfansoddiadol a Llywodraethu 2010 (p. 25), neu
“ystyr “plaid wleidyddol gofrestredig yw plaid sydd wedi ei chofrestru o dan Ran 2 o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (p. 41),”.
(4)Yn Atodlen 3 i’r Ddeddf honno (mynegai o ymadroddion wedi eu diffinio), yn nhabl 2—
(a)ar ôl y cofnod ar gyfer “aelod cadeirio” mewnosoder—
| “Aelod o un o ddeddfwrfeydd y DU (Member of a UK legislature) | Adran 72(1)”; |
(b)ar ôl y cofnod ar gyfer “cyfarfod cymunedol” mewnosoder—
| “Cynghorydd arbennig (Special adviser) | Adran 72(1)”; |
(c)ar ôl y cofnod ar gyfer “newid i sir wedi ei chadw” mewnosoder—
| “Plaid wleidyddol gofrestredig (Registered political party) | Adran 72(1)”. |
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 14 mewn grym ar 25.6.2024, gweler a. 25(1)(a)