RHAN 3COMISIWN DEMOCRATIAETH A FFINIAU CYMRU

14Personau na chaniateir iddynt fod yn aelodau o’r Comisiwn neu’n brif weithredwr arno

(1)

Yn adran 4(3) o Ddeddf 2013 (personau na chaniateir eu penodi yn aelodau o’r Comisiwn)—

(a)

yn lle “Ni chaiff Gweinidogion Cymru benodi person sydd yn” rhodder “Ni chaiff aelod fod yn”;

(b)

yn lle paragraff‍ (a) rhodder‍—

“(a)

aelod o un o ddeddfwrfeydd y DU;”;

(c)

yn lle paragraff (b) rhodder—

“(ba)

person a gymerir ymlaen gan aelod‍ o un o ddeddfwrfeydd y DU, o dan gontract gwasanaeth neu gontract am wasanaethau, mewn cysylltiad â chyflawni swyddogaethau’r aelod;

(bb)

person a gymerir ymlaen gan blaid wleidyddol gofrestredig o dan gontract gwasanaeth neu gontract am wasanaethau;

(bc)

cynghorydd arbennig‍;”.

(2)

Yn adran 8(4) o’r Ddeddf honno (personau na chaniateir eu penodi yn brif weithredwr)—

(a)

yn lle paragraff (a) rhodder—

“(a)

aelod o un o ddeddfwrfeydd y DU;”;‍

(b)

yn lle paragraff (b) rhodder—

“(ba)

person a gymerir ymlaen gan aelod‍ o un o ddeddfwrfeydd y DU, o dan gontract gwasanaeth neu gontract am wasanaethau, mewn cysylltiad â chyflawni swyddogaethau’r aelod;

(bb)

person a gymerir ymlaen gan blaid wleidyddol gofrestredig o dan gontract gwasanaeth neu gontract am wasanaethau;

(bc)

cynghorydd arbennig‍;”.

(3)

Yn adran 72(1) o’r Ddeddf honno (dehongli), yn y lleoedd priodol mewnosoder—

“ystyr “aelod o un o ddeddfwrfeydd y DU” yw—

(a)

Aelod o’r Senedd;

(b)

aelod o Dŷ’r Cyffredin;

(c)

aelod o Dŷ’r Arglwyddi;

(d)

aelod o Senedd yr Alban;

(e)

aelod o Gynulliad Gogledd Iwerddon,”;

“ystyr “cynghorydd arbennig‍” yw cynghorydd arbennig o fewn yr ystyr a roddir i “special adviser”—

“ystyr “plaid wleidyddol gofrestredig yw plaid sydd wedi ei chofrestru o dan Ran 2 o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (p. 41),”.

(4)

Yn Atodlen 3 i’r Ddeddf honno (mynegai o ymadroddion wedi eu diffinio), yn nhabl 2—

(a)

ar ôl y cofnod ar gyfer “aelod cadeirio” mewnosoder—

“Aelod o un o ddeddfwrfeydd y DU (Member of a UK legislature)

Adran 72(1)”;

(b)

ar ôl y cofnod ar gyfer “cyfarfod cymunedol” mewnosoder—

“‍Cynghorydd arbennig (Special adviser)

Adran 72(1)”;

(c)

ar ôl y cofnod ar gyfer “newid i sir wedi ei chadw” mewnosoder—

“Plaid wleidyddol gofrestredig (Registered political party)

Adran 72(1)”.