RHAN 3COMISIWN DEMOCRATIAETH A FFINIAU CYMRU
12Ailenwi Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru
(1)
Yn adran 2 o Ddeddf 2013 (enw a pharhad y Comisiwn)—
(a)
hepgorer is-adran (2);
(b)
ar y diwedd mewnosoder—
“(3)
Mae’r corff corfforedig hwnnw (a ailenwyd gyntaf gan is-adran (2)) wedi ei ailenwi yn Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru (y cyfeirir ato yn y Ddeddf hon fel “y Comisiwn).”;
(c)
yn y pennawd, yn lle “Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru” rhodder “Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru”.
(2)
Mae Rhan 2 o Atodlen 1 yn gwneud mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol sy’n ymwneud â’r adran hon.