RHAN 3LL+CCOMISIWN DEMOCRATIAETH A FFINIAU CYMRU

11Ailenwi Deddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013LL+C

(1)Mae enw byr Deddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 (dccc 4) wedi ei newid i Ddeddf Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru etc. 2013.

(2)Cyfeirir at y Ddeddf honno yn y Ddeddf hon fel “Deddf 2013”.

(3)Yn adran 76 o Ddeddf 2013 (enw byr), yn lle “Deddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013” rhodder “Deddf Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru etc. 2013”.‍

(4)Mae Rhan 1 o Atodlen 1 yn gwneud mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol sy’n ymwneud â’r adran hon.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 11 mewn grym ar 25.6.2024, gweler a. 25(1)(a)