RHAN 3COMISIWN DEMOCRATIAETH A FFINIAU CYMRU
11Ailenwi Deddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013
(1)
Mae enw byr Deddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 (dccc 4) wedi ei newid i Ddeddf Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru etc. 2013.
(2)
Cyfeirir at y Ddeddf honno yn y Ddeddf hon fel “Deddf 2013”.
(3)
Yn adran 76 o Ddeddf 2013 (enw byr), yn lle “Deddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013” rhodder “Deddf Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru etc. 2013”.
(4)
Mae Rhan 1 o Atodlen 1 yn gwneud mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol sy’n ymwneud â’r adran hon.