RHAN 5ADOLYGIAD O WEITHREDIAD Y DDEDDF ETC. A DARPARIAETHAU CYFFREDINOL

Adolygiad o weithrediad y Ddeddf etc.

19Adolygiad o weithrediad y Ddeddf etc. ar ôl etholiad cyffredinol 2026

(1)

Rhaid i’r Llywydd gyflwyno cynnig sy’n cydymffurfio ag is-adran (2)—

(a)

cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl cyfarfod cyntaf y Senedd yn dilyn yr etholiad cyffredinol cyntaf a gynhelir ar ôl 6 Ebrill 2026, a

(b)

sut bynnag, yn ddim hwyrach na chwe mis ar ôl cyfarfod cyntaf y Senedd yn dilyn yr etholiad hwnnw.

(2)

Rhaid i’r cynnig—

(a)

cynnig bod y Senedd yn sefydlu pwyllgor at ddiben cynnal adolygiad o—

(i)

gweithrediad ac effaith darpariaethau Deddf 2006 a gaiff eu diwygio, neu eu mewnosod yn y Ddeddf honno, gan Rannau 1 a 2 o’r Ddeddf hon (y Senedd a’i Haelodau, nifer Gweinidogion Cymru, a’r system bleidleisio mewn etholiadau cyffredinol etc.);

(ii)

i ba raddau y mae elfennau democratiaeth iach yn bresennol yng Nghymru, a

(b)

cynnig bod rhaid i adroddiad ar yr adolygiad fod wedi ei gwblhau gan y pwyllgor yn ddim hwyrach na deuddeg mis ar ôl cyfarfod cyntaf y Senedd yn dilyn yr etholiad cyffredinol cyntaf a gynhelir ar ôl 6 Ebrill 2026.

(3)

Mae is-adran (4) yn gymwys os, yn dilyn adolygiad o unrhyw rai o’r materion a grybwyllir yn is-adran (2)(a) gan bwyllgor a sefydlir yn unol â chynnig a gyflwynir yn unol ag is-adran (1), y gosodir adroddiad ar yr adolygiad gerbron y Senedd gan y pwyllgor.

(4)

Os yw’r is-adran hon yn gymwys, rhaid i Weinidogion Cymru osod gerbron y Senedd ddatganiad sy’n nodi ymateb Gweinidogion Cymru i’r adroddiad a grybwyllir yn is-adran‍ (3).

Annotations:
Commencement Information

I1A. 19 mewn grym ar 24.8.2024, gweler a. 25(2)(d)

Cyffredinol

20Pŵer i wneud darpariaeth ganlyniadol, darpariaeth drosiannol etc.

(1)

Os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn briodol at ddibenion unrhyw ddarpariaeth yn y Ddeddf hon neu unrhyw ddarpariaeth a wneir o dan y Ddeddf hon, o ganlyniad iddi neu er mwyn rhoi effaith lawn iddi, cânt, drwy reoliadau, wneud—

(a)

darpariaeth atodol, darpariaeth ddeilliadol neu ddarpariaeth ganlyniadol;

(b)

darpariaeth drosiannol, darpariaeth ddarfodol neu ddarpariaeth arbed.

(2)

Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) diwygio, diddymu, dirymu neu addasu’r Ddeddf hon neu unrhyw ddeddfiad arall (pa bryd bynnag y caiff‍ ei basio neu y’i gwneir).

Annotations:
Commencement Information

I2A. 20 mewn grym ar 25.6.2024, gweler a. 25(1)(c)

21Pŵer i osod terfynau gwariant ymgyrchoedd etholiadol y Senedd mewn cysylltiad ag adran 1 a Rhan 2

(1)

Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau, mewn cysylltiad ag adran 1 a Rhan 2, ddiwygio paragraff 6 o Atodlen 9 i Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (p. 41) (terfynau ar wariant ymgyrch) i osod y terfynau sy’n gymwys i wariant ymgyrch yr eir iddo gan neu ar ran plaid gofrestredig sy’n ymladd un neu ragor o etholaethau mewn etholiad cyffredinol.

(2)

Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) bennu terfynau drwy gyfeirio at y naill neu’r llall neu’r ddau o’r canlynol—

(a)

nifer yr etholaethau a ymleddir gan blaid mewn etholiad cyffredinol;

(b)

nifer yr ymgeiswyr ar restr a gyflwynir gan blaid o dan adran 7 o Ddeddf 2006.

(3)

Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) wneud—

(a)

darpariaeth atodol, darpariaeth ddeilliadol neu ddarpariaeth ganlyniadol;

(b)

darpariaeth drosiannol, darpariaeth ddarfodol neu ddarpariaeth arbed,

a chaiff darpariaeth o’r fath ddiwygio, diddymu, dirymu neu addasu’r Ddeddf hon neu unrhyw ddeddfiad arall (pa bryd bynnag y caiff ei basio neu y’i gwneir).

(4)

Ni chaiff Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau o dan is-adran (1) ond pan fo’r Comisiwn Etholiadol yn cydsynio i hynny.

(5)

Yn yr adran hon, mae i “gwariant ymgyrch” a “plaid gofrestredig” yr un ystyr â “campaign expenditure” a “registered party” ym mharagraff 6 o Atodlen 9 i Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000.

Annotations:
Commencement Information

I3A. 21 mewn grym ar 24.8.2024, gweler a. 25(2)(e)

22Rheoliadau o dan y Ddeddf hon

(1)

Nid yw’r adran hon yn gymwys i reoliadau a wneir o dan baragraff 9 o Atodlen 2.

(2)

Mae pŵer i wneud rheoliadau o dan y Ddeddf hon yn arferadwy drwy offeryn statudol.

(3)

Mae pŵer i wneud rheoliadau o dan y Ddeddf hon yn cynnwys pŵer i wneud‍ darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol‍.‍

(4)

Ni chaniateir gwneud offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau a—‍

(a)

wneir o dan adran 20 sy’n diwygio, yn diddymu neu’n addasu ddeddfiad a geir mewn deddfwriaeth sylfaenol, neu

(b)

wneir o dan adran 21,‍

oni bai bod drafft o’r offeryn wedi ei osod gerbron y Senedd ac wedi ei gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad.

(5)

Mae unrhyw offeryn statudol arall sy’n cynnwys rheoliadau a wneir o dan adran 20 yn ddarostyngedig i’w ddiddymu yn unol â phenderfyniad gan y Senedd.

(6)

Yn yr adran hon, ystyr “deddfwriaeth sylfaenol” yw—

(a)

Deddf gan Senedd Cymru;

(b)

Mesur Cynulliad;

(c)

Deddf gan Senedd y Deyrnas Unedig.

Annotations:
Commencement Information

I4A. 22 mewn grym ar 25.6.2024, gweler a. 25(1)(c)

23Dehongli

Yn y Ddeddf hon—

mae ystyr “Deddf 2006” (“the 2006 Act”) i’w ddehongli yn unol ag adran 1;

mae ystyr “Deddf 2013” (“the 2013 Act”) i’w ddehongli yn unol ag adran 11(2);

ystyr “etholiad cyffredinol” (“general election”) yw etholiad cyffredinol cyffredin neu etholiad cyffredinol eithriadol a gynhelir o dan Ran 1 o Ddeddf 2006;

ystyr “y Senedd” (“the Senedd”) yw Senedd Cymru.

Annotations:
Commencement Information

I5A. 23 mewn grym ar 25.6.2024, gweler a. 25(1)(c)

24Darpariaeth drosiannol sy’n ymwneud â Rhannau 1 a 2

(1)

Er iddynt ddod i rym, o dan adran 25(2)(a) a (b), nid yw’r diwygiadau a wneir gan adrannau 1 a 2 a Rhan 2 yn cael effaith mewn perthynas ag—

(a)

etholiad cyffredinol y cynhelir y bleidlais ar ei gyfer ar 6 Ebrill 2026 neu cyn hynny;

(b)

Senedd a ddychwelir mewn etholiad cyffredinol y cynhelir y bleidlais ar ei gyfer ar 6 Ebrill 2026 neu cyn hynny (sy’n cynnwys y Senedd a basiodd y Bil ar gyfer y Ddeddf hon);

(c)

dychwelyd Aelod i Senedd a grybwyllir ym mharagraff (b) (mewn etholiad cyffredinol neu fel arall).

(2)

Er iddo ddod i rym, o dan adran 25(2)(a), nid yw’r diwygiad a wneir gan adran 6 yn cael effaith mewn perthynas â pherson sy’n Aelod o’r Senedd a grybwyllir yn is-adran (1)(b), neu sy’n ymgeisydd (pa un a yw hynny mewn etholiad cyffredinol ai peidio) i fod yn aelod ohoni.

(3)

Os, o dan adran 25(3), y daw adran 3 i rym drannoeth diwrnod y bleidlais ar gyfer etholiad cyffredinol eithriadol, bydd is-adran (4) yn gymwys at ddiben penderfynu pryd y cynhelir yr etholiad cyffredinol cyffredin cyntaf yn dilyn yr etholiad cyffredinol eithriadol hwnnw.

(4)

Os yw’r is-adran hon yn gymwys, mae adran 3(1) o Ddeddf 2006 i’w darllen fel pe bai “2030” wedi ei roi yn lle’r geiriau “the fourth calendar year following that in which the previous ordinary election was held”.

Annotations:
Commencement Information

I6A. 24 mewn grym ar 25.6.2024, gweler a. 25(1)(c)

25Dod i rym

(1)

Daw’r darpariaethau a ganlyn i rym drannoeth y diwrnod y caiff y Ddeddf hon y Cydsyniad Brenhinol—

(a)

Rhan 3;

(b)

adran 17 ac Atodlen 2;

(c)

y Rhan hon, heblaw‍ adrannau 19 a 21.

(2)

Daw’r darpariaethau a ganlyn i rym ar ddiwedd y cyfnod o ddau fis sy’n dechrau â’r diwrnod y caiff y Ddeddf hon y Cydsyniad Brenhinol—

(a)

adrannau 1, 2, 6 a 7;

(b)

Rhan 2;

(c)

adran 18 ac Atodlen 3;

(d)

adran 19‍;

(e)

adran 21.

(3)

Daw adran 3 i rym drannoeth diwrnod y bleidlais ar gyfer yr etholiad cyffredinol cyntaf a gynhelir ar ôl 7 Tachwedd 2025.

(4)

Daw adrannau‍ 4 a 5 i rym drannoeth diwrnod y bleidlais ar gyfer yr etholiad cyffredinol cyntaf a gynhelir ar ôl 6 Ebrill 2026.

Annotations:
Commencement Information

I7A. 25 mewn grym ar 25.6.2024, gweler a. 25(1)(c)

26Enw byr

Enw byr y Ddeddf hon yw Deddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024.